Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/273

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddaeth yma o Frynrodyn, a theulu William Evans o Froneryri. Cymerai William Roberts ddyddordeb mewn llenyddiaeth a chân, a magodd yr un ysbryd yn ei blant. Griffith Williamson Jones a fu'n ymdrechgar gydag ysgol Sul y plant hynny na ellid mo'u cael i'r capel newydd presennol.

Nis gwywa'i goffa gwyn
Uwch diffrwyth lwch y dyffryn. (Cyndeyrn).

Bu ef farw Gorffennaf 25, 1898. Alice Roberts a fu'n gofalu yn hir am y tŷ capel, a gair da iddi gan bawb a fu dan ei chronglwyd. Yn nodedig o grefyddol a chyfarwydd yn ei Beibl. David Roberts Gorlan wen, mab Robert Dafydd, yn nechre'r achos, ac am lawer o flynyddoedd, a ofalai am lyfr y seti a llyfr y casgl mis. William Jones Tŷ eiddew yn ddiweddarach a fu'n ffyddlon gyda'r llyfrau cyfrifon hyn. Yn dilyn Richard Williams, y blaenor, y daeth ei rieni a brawd a chwiorydd i'r ardal, yn deulu crefyddol oll. Ei fam, Hannah Williams, a fu farw yn yr ardal hon.

Hannah Williams, hon hwyliai—hyd ei hoes,
I wlad well cyfeiriai;
Ac i'r hedd y cyrhaeddai
Yn llaw'r Ior,—lle arall 'rai? (Cyndeyrn).

Symudodd y teulu i Garmel yn 1892. Bu Richard Williams ei hun farw yn ddisyfyd drwy ddamwain yn y chwarel ar y 12 o Fai, 1894.

Nid oedd angen cystuddio,—parod oedd,
Pryd y galwyd arno,
I fawl, i fraint, y nefol fro—o'r byd,—
Ni oedodd ennyd, ehedodd yno. (Cyndeyrn).

Mae ef a'i rieni wedi eu claddu yn yr un bedd ym mynwent Brynrodyn.

Dri anwyl! daw yr ennyd—dihunant
Gan dywyniad bywyd,
A'u gwawr—heb ol y gweryd
I uno 'nghân Nef ynghyd. (Cyndeyrn).

Dyma adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr ysgol: "Ystafell helaeth a chyfleus i'r plant, a'r athrawon yn ymddangos yn deall eu gwaith, ac mewn llawn gydymdeimlad âg ef. Y dosbarthiadau yn rhy agos i'w gilydd yn y capel. Llafur ac ymroddiad amlwg yn y dosbarthiadau canol ac uchaf. Cwestiynau'r athrawon yn dda a phriodol. Y merched yn rhoi eu presenoldeb yn yr ysgol yn gyffredinol."

Fe aeth Cesarea drwy fwy na mwy o dreialon ynglyn â'i hadeiladau, yn enwedig efo thô'r capel, pan y codid ac y torrid