Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/277

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyma restr o'r rhai mwyaf blaenllaw yn yr ysgol ar adeg sefydliad yr eglwys, yn cynnwys enwau brodyr yn unig: Robert Williams Tŷ capel, Ty'nyrardd, Penygroes wedyn—y cyntaf a ddaeth i fyw i'r tŷ capel, Hugh Jones Blaen y foel, John Prichard Penpelyn, John Williams Pant y pistyll, Ellis Roberts Pant yr arian, William Prichard Tŷ cerryg, Hugh Robert Ismael Glan y gors, William Williams Ty'n y fron—gwr a'i ffyddlondeb yn ddiarebol, Thomas Jones Glan y gors, Robert William Penmynydd, Robert Griffith Bryn person, Morgan Jones Talymaes, Owen Morris, Owen Ellis Nazareth. Yna y mae dau enw arall ar wahan, sef David Griffith Tŷ capel—efe a laddwyd yn y chwarel,—William Roberts Nant noddfa "gwr da:" ymfudodd ef i'r America. Nodir am Ellis Roberts Pant yr arian, ddarfod iddo gael ei ladd yng Nghloddfa'r lôn yn 1839. Mae'r sylw yma am Hugh Robert Ismael hefyd: "Nis gallai ddarllen, ond cae'r fath bleser yn ei henaint wrth weled a chlywed eraill yn gwneud, fel y byddai bob amser yn bresennol." Nodir fod yr ysgol yn 64 o leiaf.

Wele yma restr o'r rhai a ymadawodd o Lanllyfni i ffurfio eglwys yn Nebo, sef 47 o enwau. Rhif yr eglwys ar ei sefydliad ydoedd 36, yn ol yr ysgrif o'r lle. Rhaid, gan hynny, debygir, fod rhestr Cyrus a William Roberts yn cynnwys enwau rhai a ymadawodd o Lanllyfni ryw gymaint yn ddiweddarach na sefydliad cyntaf yr eglwys, neu ynte a oedd heb fod yn bresennol yn y cynulliad cyntaf i gyd. Dyma'r restr: Meibion—Richard Griffith Penmynydd, Richard Roberts Bodychain, William Williams Ty'n y fron, Isaac Ffoulkes Jones, William Roberts Nant noddef, David Griffith Tŷ capel, Hugh Jones Blaen y foel, Robert Williams Tan y ffynnon, Henry Parry Frondeg, Thomas Parry eto, Morgan Jones Talymaes, Richard Roberts Bronyfoel, William Hughes Hendre wen, Griffith Jones eto, Richard Jones Bronyfoel, Owen Roberts Bryneithin, Hugh Roberts Glanygors, Thomas Jones eto, John Michael, Robert Griffith, Robert Jones, William Prichard Tŷ cerryg. Rhif, 22. Merched—Elinor Griffith Coed y fron, Jane Roberts Bodychain, Margaret Dafydd Bwlchgwyn, Jane Griffith Bryngwyn, Mary Williams Pant y frân, Mary Griffith Clwt y ffolt, Esther Jones Blaen y foel, Ann Williams Cil lidiart, Margaret Thomas Ysgoldy, Catherine Morris Cae'r ffridd, Laura Roberts Tŷ cerryg, Elizabeth Dafydd, Gwen Roberts Bronyfoel, Elinor Thomas eto, Margaret Williams Hendre wen, Elinor Jones Frondeg, Mary Humphreys,