Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/287

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn, wrth gadw'r ddyledswydd deirgwaith yn y dydd, os byddwn gartref, y Saboth yr un fath a diwrnod arall, a phob nos wedi dyfod o bob moddion,—er ei bod yn ddigon caled lawer tro, dro arall yn talu yn dda. Yr oedd yn talu ei ffordd yn well na dim arall. 1888. Dyma fi, Richard Griffith, wedi darllen y Salmau dair gwaith, y Testament Newydd ddwy waith, a'r Rhufeiniaid unwaith wrth gadw dyledswydd, etc. Yr ydwyf yn ei gweled hi yn fraint fawr ac yn ddyledswydd arna'i wasanaethu'r Arglwydd, a bod yn y llwch yn gweiddi am drugaredd, ragor fy mod yn uffern a drws trugaredd wedi ei gau. Er fy mod yn teimlo yn galed iawn lawer pryd, eto mae'r Arglwydd yn cyd—ddwyn â mi bryd arall. Bydd yr hen galon fel llyn dwfr wrth feddwl am Iesu Grist wedi myned i'r ddrycin fawr yn fy lle i. Mi fuaswn i yn y ddrycin am byth ond fel yr aeth Iesu Grist, o gariad, i fy lle. Diolch iddo byth am sylwi erioed ar un mor wael â mi. Mi fyddai'n synnu sut y bydd neb yn myned i'w wely heb gadw dyledswydd efo'i deulu. Mi fydd yn dda gen i gael y cyfle i dreio gwneud. 1889. Dyma fi, Richard Griffith, wedi cael byw i gadw dyledswydd deirgwaith yn y dydd, ac wedi darllen [ar y ddyledswydd ac fel arall] yr Hen Destament ddwy waith, y Testament Newydd bedair gwaith, y Salmau bedair gwaith, Boston unwaith, Bunyan unwaith, a llawer o bethau eraill, y flwyddyn hon hyd ddiwedd mis Awst. Gorffennaf 20, 1890. Dyma fy mhrofiad heddyw, Caniad Solomon v. 1, 'Yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai anwyl.' Y mae'r gair yn fwy ei werth na'r byd." Yn 1890 fe aeth dros y Testament Newydd chwe gwaith, y Salmau deirgwaith, a hynny mewn saith mis o amser. Yn 1891 fe aeth drwy'r Beibl bedair gwaith. El ymlaen. "Dyma fi yn 82 oed yn taflu fy meddwl yn ol ar fy nhaith drwy'r anialwch, ac yn gweled fy nghwys yn hir iawn, a llawer iawn o falciau ynddi, ond y mae'n dda gennyf feddwl y medr rhad ras eu codi nhw i gyd, a gwneuthur y gŵys yn uniawn yn uniondeb un arall, sef Iesu Grist. Yr wyf yn teimlo ac yn gweled fod eisieu gwaed ar holl lestri fy ngwasanaeth." Aeth drwy'r Beibl, drachefn, bedair gwaith yn 1892. Yna y mae ganddo dipyn o'i hanes. Ganwyd fi yn sir Feirionydd yn 1809. Yr oedd fy mam yn chwaer i John Prichard, hen flaenor Llanllyfni. Yr oedd fy nhaid yn un o hen deulu y Buarthau. Yr oedd fy nain yn chwaer i fam Owen Williams Waenfawr. Am yr ysgol Sul y dylwn i ddiolch am hynny o addysg a gefais. Gwnewch yn fawr o'r ysgol Sul. Mi eis i'r seiat yn y flwyddyn 1830, yna i gapel Brynengan. Mi a ddarfum briodi yn