ffordd. Ac os byddai pobl ieuainc wedi eu derbyn, neu rai mewn oed newydd ddod i'r seiat, byddai Owen Roberts, wrth fyned i'r chwarel neu wrth ddod adref, yn ei ddull serchog ei hun, yn eu cymell pan ar eu pennau eu hunain i ddechre cadw dyledswydd, ac i gymeryd rhan mewn gweddi gyhoeddus. A phan deimlai ei fod wedi braenaru digon ar y tir, gofalai am roi gair i'r blaenoriaid, ar iddynt alw hwn a hwn ymlaen i ddiweddu'r seiat. Yr oedd hefyd yn help arbennig i bregethwr. Eistedd yn y sêt fawr, ac ŷf y cwbl i mewn, gan borthi yn barhaus, gyda'i 'ïe, ie,' a'i 'Amen,' ac ambell ddeigryn yn ei lygaid. Plant yn yr AB oedd ei ddosbarth yn yr ysgol, ac ni byddai arno fyth eisieu newid. Heblaw dysgu'r wyddor i'r plant, dysgai hwy hefyd i garu Iesu Grist. Adnabu ei le, cafodd ef, a llanwodd ef i'r ymylon.
"Eisteddaf mewn sêt gron, y nesaf at y drws. A chan fod y pulpud rhwng y ddau ddrws, yr wyf mewn lle manteisiol i weled pawb yn y capel. Gan ei bod yn amser dechre, y mae'r blaenoriaid yn eu lle. Dyna Richard Griffith mewn sedd wrth ochr y pulpud, ac yn wynebu'r gynulleidfa. Dyn bychan, pengoch. Er mewn oed, parha i edrych yn ieuanc. Deil ei wallt heb wynnu, ac nid yw chwaith yn ei golli. Cafodd fyw lawer ar ol hyn. Bu ef am beth amser yn gwisgo'r anrhydedd o fod y swyddog hynaf yn Arfon. Clywais iddo unwaith wneud araeth synnodd bawb, o blaid Evan Owen Talsarn, pan oedd efe yn gofyn caniatad i ddechre pregethu, a llwyddodd, er pob gwrthwynebiad, i'w wthio ef drwy'r drws. Yn y Cyfarfod Misol diweddaf iddo ef yn Nebo, fe synnodd bawb wrth roi hanes yr achos. Ond ni synnodd neb oedd yn ei adnabod : y syndod oedd fod y fath ddawn a gwres yn gallu bod yn guddiedig. Ni chlywais neb fedrai ddweyd gair ar ol pregeth neu mewn seiat yn well na Richard Griffith. A byddai ei air fel ffrwydr-belen yn goleuo, ac yn dinystrio os byddai eisieu, bopeth o'i amgylch. Yr oedd wedi teimlo'n ddwys yn niwygiadau Brynengan. A chwyno arno'i hun yn enbyd y byddai bob amser, yn enwedig ar ei galon ddrwg. Teimlai awydd ymryson â Phaul am fod y pechadur mwyaf. Ac yr oedd y ddau wedi byw bywyd dichlynaidd o'r dechre. Ond daeth y goleuni mawr, a chafodd y ddau eu lladd. Yr oedd Richard Griffith wedi darllen gweithiau Bunyan yn fanwl, yn enwedig y Rhyfel Ysbrydol, a'r Helaethrwydd o Ras. Gwelai Daith y Pererin bob cam yn ei galon ei hun. Dyma'r llinellau fuasai'n rhoi'r disgrifiad goreu o'i brofiad cyson: