yna'r ddwy nesaf; ac os byddai wyth llinell, ail-adrodd y pedair olaf. Ac ni byddai neb y pryd hwnnw yn meddwl am ganu dim ond un pennill ar y tro. Yr oedd i'r dull hwnnw ei fanteision: gwneid ymdrech neilltuol i ddysgu'r penillion, er mwyn gallu cymeryd rhan yn y canu. Ac yr oedd pawb yn medru y penillion mwyaf arferol o'u cof. Ond yr oedd Thomas Griffith bob amser gyda'i lyfr, a throsedd fawr oedd i neb ledio pennill nad oedd yn y llyfr. Prin yr ystyriai efe unrhyw bennill felly yn ganonaidd. Yr oedd mwy o wybodaeth am gerddoriaeth yn rhai o'i deulu nag ynddo ef, ac yn rhai o'i blant. Ond yr oedd ganddo ef lais da, ac yr oedd yn cofio amryw donau ar ei gof. Ond nid oedd yn hollol gyfarwydd â'r hydau, fel y byddai yn gwneud camgymeriadau digrifol ambell waith. Ac nid oedd yn meddu dawn William Evans i gyfaddasu'r dôn i unrhyw hyd. Yr oedd Thomas Griffith yn wr crefyddol ei ysbryd, ond fel cerddorion yn gyffredin yn hawdd ei dramgwyddo. Yr oedd yn hynod ffraeth ei dafod. Cof gennyf ei glywed yn dweyd am un meddyg, 'Fe ŵyr hwna i'r munyd pa bryd y bydd dyn farw, ond am roi rhywbeth iddo rhag iddo farw, fedr o ddim. Nid meddyg felly yw y Meddyg mawr, ond meddyg a all yn gwbl iachau.' Un o'i hoff donau oedd Bangor, ymdeithgan milwyr Cromwell. Os byddai yn methu cael tôn ar ryw eiriau,' Gadewch i ni dreio Bangor,' eb efe. Ond er y dywedir y byddai milwyr Cromwell yn gallu canu yr ail arbymtheg Salm arni, tipyn yn anystig a fyddai weithiau i fyned ymlaen yn ol ieuad Thomas Griffith arni.
"Ond nid Thomas Griffith, wedi'r cwbl, fydd yn codi'r canu yn yr oedfa heno, oblegid dacw fy nhaid, Robert William Pantyfron, yn dod i mewn. Ac y mae ef yn deall yr hên nodiant yn dda. Mae ef wedi myned radd ymhellach na Thomas Griffith: y mae llyfr Ieuan Gwyllt ganddo ef. Cymer ei le yn naturiol fel codwr canu, am ei fod o'i ysgwyddau i fyny yn uwch fel cerddor na neb arall yn y lle. Er ei fod yng nghymdogaeth y triugain oed, y mae ganddo lais soprano cyn fwyned a'r un ferch. Gwyddai sut i roi meddwl pennill allan wrth ei ganu. Ni chlywais neb yn gallu canu pennill ar dôn gynulleidfaol gyda'r fath raen ac eneiniad. Canai â'r deall ac â'r ysbryd hefyd.
"Dacw Joseph Thomas o'r diwedd yn dod i mewn. Rhoddir allan i ganu, 'Gwaed y groes sy'n codi i fyny.' Tery Robert William Alma arni. Ond ychydig o'r gynulleidfa sy'n gallu canu arni. Yr oedd y dasg o ddwyn tonau Ieuan Gwyllt i ymarferiad