drwy gae iddo ef. Pwy oedd wrth y gamfa yn fy nisgwyl, wedi fy ngweled yn dod, ond Harry Prisiart. Dechreuodd siarad ar unwaith am Richard Owen, oedd newydd fod yn pregethu am wythnos yn Llanllyfni. Gwelwn ar unwaith fod y graig wedi ei tharo â gwialen Duw, a dwfr yn dechre dod allan. A'i ddagrau ar ei ruddiau. dywedai, Dyma'r dyn rhyfeddaf a welais erioed. Nid ei bethau ef sy'n effeithio arnaf; ond y mae yn dwyn i'm cof bregethau Morgan Howells a wrandewais ddeugain mlynedd yn ol.' Ni welais erioed well enghraifft o sylw Joseph Thomas am yr harpŵn welwyd mewn hen forfil. Ac un o'r troion diweddaf y bum yn Nebo, un o'r saint mwyaf amlwg yn y sêt fawr oedd yr hen garreg dân wedi myned yn llyn dwfr!
"Dacw wrandawr arall, William Owen Nant y noddfa. Oni bae ei fod yn dod i'r capel ambell dro, prin y buasai neb yn gwybod fod ganddo enaid. Mae ef dipyn yn hoff o'r hen ddioden. Pan yn llanc yr oedd yn un o gwmni a gyfarfyddai mewn tafarn i wawdio crefydd a chrefyddwyr. Cerdd allan o'r oedfa heno ar frys, fel mewn digofaint llidiog. Pan yn bedwar ugain mlwydd oed, fe ddaeth i'r seiat. Os gallai rhywun drwy ffyddlondeb wneud iawn am esgeulustra, gwnaeth William Owen hynny. Pwy bynnag arall fyddai ar ol o'r seiat, fe fyddai ef yno, er bod ohono yn gloff, a chanddo dipyn o ffordd hefyd. Ac yr oedd ei brofiad yn addfed, wedi ei eni yn ei gyflawn faintioli. Clywais ef yn dweyd, pan ddechreuid gwawdio'r Iesu yn y cwmni yr elai iddo yn ieuanc, er yn hoff o'r cwmni, yr aethai allan.
"Pan eid i'r chwarel am chwech y bore, ac awr o waith cerdded tuag yno, cynelid y ddyledswydd deuluaidd gan amryw fore a hwyr. Clywais John Morgan Tŷ cerryg, tad y Parch. John Morgan Jones, yn dweyd nad aeth efe erioed i'r chwarel heb gadw'r ddyledswydd deuluaidd. A chyffelyb iddo ydoedd Robert Griffith Brynperson, tad y Parch. W. Lloyd Griffith Llanbedr. Yr oedd efe yn frawd i Richard Griffith, ac yn daid hefyd i Mr. Evan Lloyd Jones, y pregethwr. Robert Jones Fawnog grîn oedd dra gofalus am yr addoliad teuluaidd, a thra hoff o wrando pregethau. Byddai yn cychwyn ddau ar y gloch y bore o'r Pennant i Bwllheli neu Gaernarvon, er mwyn bod mewn pryd yn y seiat am wyth. Ac wedi cerdded yr holl ffordd, a sefyll drwy'r dydd, cerddai yn ol drachefn fel un wedi cael ysglyfaeth lawer. Yn hen wr dros bedwar ugain, wedi cloffi yn fawr, cerddai i'r odfeuon, er iddo fod awr a hanner