yn myned ar ei ddwyffon, ac awr a hanner yn dychwelyd yn ol. Ac ni chwynai fod y drafferth yn ofer.
"William Williams Ty'nyfron oedd hynod am ei dduwioldeb a'i ddawn i gynghori pobl ieuainc. Griffith Jones Bryn draenllwyn a weddiai yn hynod weithiau. Bu ganddo fab yn dechre pregethu yn niwygiad '59, y dywedir ei fod yn un gobeithiol anghyffredin. Noswyliodd yn gynnar yng ngwres y diwygiad.
"Nid wyf yn cofio testyn, na dim o bregeth Joseph Thomas bellach. Cof gennyf sylw Robert Jones Llanllyfni wrth Joseph Thomas ei hun ar ddiwedd y gwasanaeth. Dywedai wrtho fod ganddo ddigon o straeon a chymhariaethau da i wasanaethu arno ef am weddill ei oes.'
Dyma adroddiad ymwelwr y Canmlwyddiant: "Hydref 18, 10 ar y gloch. Dechreuwyd yr ysgol yn weddol brydlon, ond daeth llawer i mewn yn ystod y gwasanaeth dechreuol. Dylid annog yn fynych at brydlondeb. Llawer o athrawon medrus yn y dosbarth canol, ond nid oedd un a ymwelwyd â hwynt wedi ymgymeryd â'r wers-daflen. Yr oll o'r bechgyn yn y dosbarth yn medru y Deg Gorchymyn yn dda. Canu da ac effeithiol. Nifer o ferched ieuainc yn absennol rhag ofn yr ymwelwyr. Ysgol y plant yn ysgoldy y Bwrdd. Nid oes llenni yn cael eu harfer, ac y mae'r diffyg o hynny yn wastraff mawr ar amser. Ysgol drefnus, yn cael ei chario ymlaen yn ol cynllun yr ysgol ddyddiol. John Roberts."
Heblaw y rhai a nodwyd,-oddigerth un neu ddau gan Mr. Robert Williams,-yr oedd yma liaws o gymeriadau lled arbennig, megys Catrin Edward, cares i John Jones Talsarn, y credir iddi gael tro gwirioneddol ym mlwyddyn olaf ei hoes, a hithau agos yn 80 oed (marw 1860); William Pritchard Tŷ cerryg, taid y Parch, John Morgan Jones, a fu'n ffyddlon yn nydd pethau bychain yr achos, ac y dywedir y byddai yn o hynod ar ei liniau bob amser y gelwid arno yn union ar ol rhyw storm o fellt a tharannau (m. 1860); Laura Roberts, hefyd, priod William Pritchard, ffyddlon hithau yn nhymor bore yr achos, a'r hyn a allodd hi a'i gwnaeth (m. 1861); Robert Pritchard Cerryg ystympia, mab Richard Roberts Maes y neuadd, un o blant diwygiad 1859, darllenwr ar Esboniad James Hughes, a dyn drwyddo (m. Hydref 8, 1865); a Richard Roberts y tad, pert a llawen, parchus gan bawb, un o sefydlwyr yr achos,