gwyddai na byddai byw yn hir, ond ei fod yn hollol foddlon i ewyllys ei Arglwydd. (Gweler gyfeiriad pellach ato ynglyn â hanes Brynrodyn a Charmel).
Yn 1870, daeth John Roberts Buarthau yma o Dalsarn a William Griffith o Hyfrydle, yr olaf eisoes yn swyddog. Galwyd hwy i'r swyddogaeth yma yn y man.
Oddeutu 1872, Temlyddiaeth Dda yn ei blodau. Bu'n foddion i ddwyn i sylw amryw gymeriadau gwych, ac un yn arbennig felly, sef William John Davies (Glan Llyfnwy). Ymunodd â'r eglwys yn y man. Canfyddwyd ar unwaith ei fod o feddwl galluog, ac anogwyd ef cyn bo hir i ddechre pregethu, yr hyn a wnaeth yn 1876. Ar ei ddychweliad o'r Bala, yn enwedig, yr oedd o fawr wasanaeth yma, a hynny hyd y derbyniodd alwad i Danrallt yn 1883.
Yn 1875 derbyniodd y Parch. Peter W. Jones alwad yr eglwys, gan ddod yma' o 'Lanfairfechan. Rhif yr eglwys y flwyddyn hon, 149 (?). Camgymeriad yn yr ystadegau am 249, feallai. Y rhif yn 1876, 276.
Chwefror 22, 1879, y bu farw John Roberts Treddafydd, yn 62 oed, ac yn un o'r ddau flaenor cyntaf o ddewisiad yr eglwys. Efe oedd yr olaf o'r rhai fu'n cychwyn yr achos. O'r ffrwyth cynnar hwnnw, efe syrthiodd olaf oddiar y pren, wedi aros yno yn hir i felysu. "Yr hen Gristion" oedd enw'r bobl arno, enw wedi ei fwriadu feallai i ddynodi nad oedd efe yn fawr mewn dim ond mewn gras, ond yn hynny yn fawr. Nid edrychai efe ar ddim yn rhy fychan ganddo i'w wneud, ac ni chyfrifai ddim yn ormod. ganddo ychwaith. Ei gymeriad ef fel petryal byddin Lloegr: pa mor fychan bynnag, nid yn hawdd y tyrr y gelyn y rhengoedd. Petryal teyrnas nefoedd oedd John Roberts, yn sefyll yn ddigryn yn wyneb ymosodiad o ba gyfeiriad bynnag. Llinellau cyferbyniol ei nodweddiad, yn cydgyfarfod mewn conglau o gadernid, oedd ei ffyddlondeb, ei bwyll, ei amynedd a'i dduwioldeb. Ffrwydrodd y powdwr mewn carreg unwaith yn union o dano, pryd y tybid fod y tân wedi myned allan. Llithrodd yntau rhwng pedwar darn y garreg i lawr oriwaered. Llammodd cydweithiwr iddo ar ei ol, gan ei dynnu allan oddirhwng y darnau hynny, heb fod ohono fymryn gwaeth, yr hyn a ymddanghosai yn wyrth. Gwr ofer ei fuchedd oedd ei gydweithiwr. Pan ofynnwyd iddo, pam y mentrodd