ymddengys fod ysgol Sul yn cael ei chynnal yn y neuadd drefol er 1872 dan nawdd eglwys Bethel. Erbyn 1881 yr oedd y brodyr elai yno wedi codi ysgoldy ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Yn groes i deimlad yr eglwys y rhoes y Cyfarfod Misol ganiatad i sefydlu eglwys ynglyn â'r ysgoldy. Yr un flwyddyn dewiswyd yn swyddog yn Bethel, T. W. Williams. Galwyd W. Herbert Jones i'r swydd, hefyd, ar ei ddyfodiad yma o'r Baladeulyn. Etholwyd T. W. Williams yn ysgrifennydd yr eglwys, swydd a lanwyd ganddo hyd yn bresennol, ac eithrio'r blynyddoedd, 1891-3.
1884. Lleihad o 11 yn nifer yr aelodau. Bu farw William D. O'Brien. Aelod gweithgar, yn arbennig fel athraw yn yr ysgol. Ymadawodd â'r gymdogaeth i ddychwelyd yn ol yn fuan. Anrheg- wyd ef ar ei ymadawiad â thysteb. Ebrill 22, yn 43 oed, bu farw R. T. Roberts, wedi gwasanaethu amryw swyddau pwysig yn dwyn perthynas â'r achos gyda ffyddlondeb. Aelod gwerthfawr.
1885. Bu farw un o chwiorydd hynaf yr eglwys, sef Margaret Hughes Garthdorwen. Nodedig am ei charedigrwydd i'r tlawd. Mam yn Israel.
Rhoes y gweinidog ofal yr eglwys i fyny oherwydd gwaeledd iechyd. (Gweler ar gyfer 1888).
1886. Mai 10, bu farw Richard Griffith, neu'n llawnach, Richard Griffith Owen, yn 84 oed, yn flaenor er 1862. Ganwyd ef ym Mrynbeddau, Rhoslan. Dechreuodd weithio yn ieuanc iawn. ar dir ei dad. Yna bu yn forwr am ychydig. Yna dysgu gwaith gof, a dilyn ei alwedigaeth yn ardaloedd Arfon, wedi hynny yn Nerpwl, lle y llwyddodd yn ei orchwyl. Dygodd llwyddiant ef i ystyried nad diogel cyflwr gwr ag y mae ei ffyniant yn y byd hwn yn unig. Dechreuodd ddilyn moddion gras, fel y dywedai ef hun, er mwyn cael ei feddwl o'r efail. Clywodd bregeth gan Richard Williams, awdwr y Pregethwr a'r Gwrandawr, ar y geiriau, "Os gelli di gredu, pob peth a all fod i'r neb a gredo," pan y sylwodd y pregethwr, mai truenus a thlawd a fyddai hwnnw a'r ni chredai. "Ar ol hynny," ebe Richard Griffith, "mi ddechreuais weddïo fel y gallwn." Yn fuan ymunodd âg eglwys Pall Mall. Dewiswyd ef ymhen amser yn flaenor yn Rose Place, ac wedi hynny yn Birkenhead. Ymroes, yn ei iaith ef ei hun, i fod yn dad a mam i enethod. ieuainc mewn gwasanaeth, a dywedai ei fod yn dâl i'w fynwes wrth ffarwelio âg eglwys Birkenhead i weled rhai o'r cyfryw yn wylo