ar ei ymadawiad. Mewn seiat fawr yn Nerpwl yn fuan wedi hynny, pan yr oedd "Dyledswydd yr eglwys tuag at yr ieuenctid" yn bwnc, cyfeiriodd John Ogwen Jones at Richard Griffith fel un a ofalai am bethau a esgeulusasid gan eraill, am y lodesi yn fwy nag am y ladies. Ceid blas arno yn y seiadau yn Bethel yn adrodd dywediadau hen bregethwyr Lerpwl. Adnod a adroddai yn feunyddiol oedd honno, "Ceisiwch yr Arglwydd tra y galler ei gael ef," a gair mawr ganddo oedd hwnnw, mai adeg wael i geisio crefydd oedd henaint a methiantwch. Gwasanaethodd y swydd o flaenor mewn gwahanol fannau am 40 mlynedd. Ni frysiodd yn ei ddiwedd, am y credai ei fod wedi rhoi ei achos i'r Arglwydd Iesu ers blynyddoedd, ac am yr hyderai fod ei etifeddiaeth yr ochr draw. (Goleuad, 1886, Mai 29, t. 7).
Y flwyddyn hon, hefyd, yn 79 oed, y bu farw Robert Dafydd. Hynod fel gweddiwr, yn enwedig ar ran y Genhadaeth Dramor. Ei hoff bennill, "O Arglwydd, cofia am hiliogaeth Abraham."
1888. Ionawr 20, bu farw y Parch. Peter W. Jones, yn 47 oed. Yr oedd efe wedi rhoi gofal yr eglwys i fyny ers pum mlynedd. Llafuriodd yma yn y swydd o fugail eglwys am 10 mlynedd, er fod ei iechyd wedi gwanhau yn fawr cyn diwedd yr amser hwnnw. Yn y Drefnewydd yn bennaf y bu efe yn trigiannu yn y cyfamser. Yr ydoedd wedi dychwelyd i Benygroes rai wythnosau cyn y diwedd. Yr oedd efe yn fab i'r Parch. John Jones Newmarket, ac yr oedd y Parch. Peter Roberts Llansannan yn daid iddo ar ochr ei fam. Wedi bod am ddwy flynedd yn y Bala, bu'n weinidog yn Barrow, Tregynon a Llanfairfechan. Nid oedd ei iechyd yn gryf yn dod yma, a chaniateid iddo chwech wythnos o seibiant yn yr haf. Yn lle gorffwys, elai ef bob blwyddyn i'r coleg Tonic Sol-ffa yn Llundain. Enillodd ei radd yno. Gwnaeth yr eglwys, gyda chymorth eglwysi'r Cyfarfod Misol, dysteb o £100 iddo yn 1887. Yr oedd yn wr anwyl, yn un a fawr hoffid gan ei frodyr. Yn efrydydd ymroddgar. Darllennodd gryn lawer ar y Dr. Owen a Howe, ac eraill o'r Puritaniaid. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy a phoblogaidd. Yn wr dymunol yr olwg arno, o bryd tywyll a hardd, a lled darawiadol yr olwg. Ei draddodiad yn rhwydd ac ystwyth, gyda pharabliad croew, a llais lled ddwfn a chlir. Enillai nerth wrth fyned ymlaen, a llefarai gyda grym ac effeithiolrwydd. Y mater wedi ei gyfleu yn glir, ac yn efengylaidd ei nodwedd, ac yn cael ei gyfeirio adref at y teimlad a'r gydwybod. Ei ymdrin â'i