ystod rhai blynyddoedd, a deuai a llechen gydag ef dan ei gesail i'r ysgol, ac ar honno y cedwid y cyfrifon am y diwrnod. Griffith Owen oedd yr holwyddorwr, am ysbaid ei oes efallai, a danghosai graffter gyda'r gwaith. Bu Griffith Owen farw yn gymharol ieuanc. Trefnwyd gwahanol ddosbarthiadau o'r wyddor hyd at y Beibl, a llwyddwyd mor bell a hynny. Blinid yr arolygwr bellach gan feibion a merched yn tyrru allan ar ganol y gwasanaeth, gymaint a thair neu bedair o ferched gyda'u gilydd ar dro. Byddai raid eu cyrchu i mewn; a gorfu dwyn eu hachos ar gyhoedd er dangos drygedd yr arfer y syrthiasant iddi. Rhoddwyd gorchymyn caeth nad oedd neb i fyned allan o'r ysgol mwy nag o bregeth, a rhoddwyd terfyn ar y drwg arfer. Ymlaen yr elai'r ysgol nes fod yr hen gapel yn llawn, a phawb yn ei le yn fywiog ac effro. Llanwyd y capel newydd drachefn, pan adeiladwyd hwnnw, fel cwch gwenyn, a chododd haid ar ol haid allan ohono; ond er cymaint a adawodd yr hen gwch, yr oedd yn parhau yn amser John Owen mor weithgar ag erioed.
Yr oedd yr achos wedi cynyddu cymaint yn nhymor y diwygiad, fel y gorfu helaethu'r capel, yr hyn a wnawd yn 1796. A pharhau i gynyddu yr ydoedd bellach. Yn fuan wedi helaethu'r capel dechreuwyd pregethu tua'r Hen-derfyn-deublwyf, a bu pregethu yno am flynyddau cyn codi capel Brynaerau.
Fe fu John Roberts (Llangwm) yn cadw ysgol nos yn yr hen gapel. Ar ei ol ef daeth Michael Roberts. Yr oedd efe yno oddeutu 1798. Bu Hugh Jones, gwr Sian Jones, yn un o ysgolorion Michael Roberts. Arferai'r athraw holi'r bechgyn am y modd y treuliasant y Sul. Un bore Llun, fe ofynodd i Hugh a fu efe yn rhodianna ar y Sul?
"Naddo," ebe Hugh. Yna fe ofynodd i fachgen o'r enw John. "Do," oedd ateb hwnnw. "A oedd rhywun gyda thi ?" "Oedd, Huwcyn." Wedi bod yn gweled pont yr afon Hen yr oeddynt, a adeiledid ar y pryd. Dodwyd Huwcyn i sefyll ar ben y fainc. Pwy ddaeth i mewn yn y man ond Robert Roberts. Ac wedi clywed yr achos, addawodd fyned yn feichiau dros Huwcyn ar ol iddo ef addaw na wnelai mo'r cyffelyb rhagllaw..
Tachwedd 28, 1802, y bu farw Robert Roberts, yn ddeugain mlwydd oed. Nid yw'n hysbys pa bryd y daeth efe i Glynnog, ond fe gesglir oddiwrth ei hanes iddo fod yno am rai blynyddoedd