Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/312

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

308 Ychydig oriau cyn cyfarfod ohono â'i ddamwain angeuol yn y chwarel yr adroddodd John Jones Tyddyn difyr y pennill yma. wrth John Roberts:

Ar bellterau tragwyddoldeb,
Mae fy wyneb yn y blaen;
Ni chaf aros, ni chaf orffwys,
Nes fy myned yno'n lân;
Porth Marwolaeth!
O mor gyfyng-rhaid mynd trwy!

Ar ol y fath amgylchiad, pa sawl gwaith y tramwyodd y llinell olaf yna drwy feddwl John Roberts, a wys? Y lle yr oedd hi wedi ei wneud yn ei feddwl barodd iddi ddod allan gyda'i ebychiad gwanaidd olaf!

1896. Prynwyd tai Llwyn y fuches. Cyfranodd yr eglwys £88 tuag at Ysgol Ganolradd Penygroes.

Marw William Griffith y blaenor, fel ei gelwid, yn 60 oed. Yn y swydd yma er 1870, a chyn hynny yn Hyfrydle. Dyma fel y dywedir am dano yng nghofnod Cyfarfod Misol Mawrth: "Yr oedd yn ddiwinydd da, yn llenor ac yn fardd. Meddai farn gref ac ysbryd anibynnol, a thymer naturiol yn gogwyddo at y llym; ond drwy ddisgyblaeth amgylchiadau gwasgedig a chystudd, a thriniaethau Ysbryd Duw drwy'r Gair, fe ddaeth yn addfwyn a thyner a hawdd nesau ato." Bu am flynyddoedd yn athraw ar ddosbarth a efrydai "Athrawiaeth yr Iawn" Lewis Edwards a llyfrau eraill. Ei ffyddlondeb i'r moddion a'i brydlondeb yn esiampl i'r eglwys. Yn wr o gynghor. Teimlid chwithdod mawr ar symudiad John Roberts ac yntau o fewn ychydig fwy na blwyddyn i'w gilydd. Meddiannid ef ei hun gan hyder tawel ar y symudiad hwnnw.

Bu William Griffith yn cadw dyddlyfr am ystod ychydig flynyddoedd. Ar gyfer 1886, Chwefror 28 (Sul), y mae efe wedi ysgrifennu fel hyn: "John Prichard Amlwch yn pregethu (Hosea xiv. 1—7; Salm lxxxi. 11, 12). Y bregeth heno yn gafael ychydig ynof, 'Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef, ac Israel ni'm mynnai. Yna y gollyngais hwy yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cynghor eu hunain.' Wel, rhaid imi addef, ac y mae'n addefiad poenus, na bum erioed yn fwy agored i hyn. Yr oedd yn dyfod i'm meddwl am adeg neilltuol yn fy hanes pan y daeth addewid werthfawr yn eiddo imi, fel y tybiwn y pryd hwnnw, sef