yw honno, 'Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr-adawaf chwaith' (Heb. xiii. 5). Buasai'n well gennyf na'r holl greadigaeth, pe buaswn yn y meddiant o'r cyfryw brofiad a theimlad y dyddiau. hyn. Pan oeddwn yn yr ysgol yng Nghlynnog gydag Eben Fardd agos i 30 mlynedd yn ol, sef Mai, 1856, penderfynais na chae fy nghrefydd ddim bod ar ei cholled o'r symudiad; ond yn hytrach fel arall, y cymerwn fantais ar y symudiad bychan, dibwys hwnnw, i ymroddi fwy nag erioed i fywyd crefyddol. Cefais fy magu yn grefyddol, a theimlais lawer oddiwrth bethau crefydd. Arferwn gadw dyledswydd deuluaidd er yn ieuanc. Cymerwn ran yn y gwasanaeth cyhoeddus ar brydiau, a gweddiwn fwy na'r oll yn y dirgel. Ni omeddais gymeryd rhan gyhoeddus yng Nghlynnog, er y byddai yn gryn faich arnaf gan ofn, yn enwedig ofn Eben Fardd. Gwnawn gadw dyledswydd gyda fy nain dduwfol, Sian Ellis, y ddyledswydd yn cael ei throi yn fynych yn seiat gan fy nain. Mwy na'r oll, neilltuwn adeg i weddio yn y dirgel: awn gyda glan y môr bob nos i feithrin myfyrdod crefyddol, ac i weddïo. Ni byddwn foddlawn i fyned i'm gwely heb fyned i lan y môr i weddïo. Un noswaith, pa fodd bynnag, ar ol cadw'r ddyledswydd gyda'm nain, daeth y demtasiwn i mi beidio â myned allan y noson honno, gan ei bod yn gwlawio,-y gallaswn weddio yn y tŷ yn fy ngwely, ac y gwrandewid arnaf yr un fath. Ond ni theimlwn yn dawel i hynny, ac er mwyn tawelwch i'm cydwybod, am a wn i, aethum allan i'm rhodfa arferol, a'm gwlawlen uwch fy mhen. Teimlwn foddhad a phleser mawr y waith hon, fel arfer. Ond pan ar droi i ddychwelyd i'r tŷ, dechreuais bryderu, a oedd fy ngweddiau yn cael eu gwrando? a oeddynt yn esgyn yn uwch na'r lle y safwn arno? Ofnais eu bod yn disgyn i'r ddaear, ac nad oedd fy holl grefydd ond ofer. A beth pe bawn yn myned ymlaen mewn ansicrwydd fel hyn, a chael fy hunan yn y diwedd yn golledig? Daethum i'r penderfyniad fod y dull hwn o grefydda yn un rhy hawdd ac esmwyth,-mai rhagrith oedd y cyfan i gyd. Daeth fy sefyllfa yn un ofnadwy. Yr oedd pawb a phopeth yn ddedwyddach yn fy ngolwg na myfi. Eiddigeddwn wrth yr adar ar lan y môr, ac wrth y môr ei hunan-nid oedd gyfrifoldeb arnynt hwy. Daeth fy nghyfrifoldeb i bwyso yn arswydus arnaf yn awr. Yr ydwyf yn greadur cyfrifol,-yn ddyn! Ac, Ni allaf mwy er ceisio Byth beidio bod yn ddyn. Yr oedd yn demtasiwn i mi ymdaflu i'r môr, ond dywedai hynny o reswm oedd ynof na wnae hynny ond perffeithio yr uffern yr oeddwn yn deimlo ynof fy hun yn bresennol
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/313
Prawfddarllenwyd y dudalen hon