Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/315

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

horion i'r plant, ar iddynt fod yn garedig wrth adar ac anifeiliaid. Dywedai yn fynych, 'Ceidw Duw eich cymeriadau, cedwch chwi gydwybod dda.'" (Ysgrif Miss Williams).

1897. Cynyddodd yr eglwys 27 mewn rhif. Derbyniwyd 23 o had yr eglwys.

1898. Tri o wŷr ieuainc yn ymgynnyg am y weinidogaeth, sef W. Richard Jones, John Owen Jones a Griffith Owen. Bu'r cyntaf farw cyn myned drwy ei brawf, yn 21 oed. Bernid y gwnelsai bregethwr cymeradwy. John Owen Jones ar ol hynny yn myned yn weinidog i Henllan, a Griffith Owen i Bontcysyllte.

Mr. William Jones Penbrynmawr yn ymadael i Fôn.

1899. Dechre adeiladu ysgoldy, ac, yn ddiweddarach, adgyweirio'r capel. Yr oll oddifewn i'r capel yn cael ei wneud o newydd. Yr adeiladwyr,—Mri. Jones a Roberts Pwllheli. Yr ymgymeriad yn £3,784. Yr holl dreuliau yn £5,000. Ni agorwyd mo'r capel am gryn ysbaid (Mehefin, 1902).

Adroddiad yr ymwelydd ar Ganmlwyddiant yr Ysgol Sul: "Dosbarth A. Ddim yn dilyn y wers-daflen. Ddim yn arfer egwyddori â holwyddoregau yn y dosbarth. Neb o'r disgyblion yn medru adrodd allan y Deg Gorchymyn. Dosbarth B. Presennol, 6; absennol, 2. Buasai yn dda amcanu at well disgyblaeth a threfn yn y dosbarth hwn. Darllennid yn Efengyl Ioan. Neb yn medru adrodd allan y Deg Gorchymyn. Dosbarth C. Y dosbarth hwn yn dilyn y wers-daflen. Darllen da. Ddim yn arfer egwyddori yn y dosbarth. Neb yn medru allan y Deg Gorchymyn. Dim cynllun neilltuol i ddysgu'r Beibl allan. Dosbarthiadau Ch—E. Neb ohonynt yn dilyn y wers-daflen. Y rhan fwyaf o'r disgyblion heb fedru'r Deg Gorchymyn. Dosbarthiadau merched. Y rhan fwyaf heb ddilyn y wers-daflen. Ychydig yn arfer egwyddori yn y dosbarth. Y rhan fwyaf heb fedru'r Deg Gorchymyn. Ysgol y Plant a'r Babanod. Cedwir hon mewn ystafell ar wahân. Yr ysgol plant oreu yn y dosbarth. Y gwers-lenni yn cael eu harfer yma. Dau ddosbarth o'r plant ieuengaf, yn cynwys o 20 i 30 bob un, yn cael eu haddysgu yn effeithiol. Yr arolygwr wedi ymdaflu i'w waith. Trefn a disgyblaeth yma. John Roberts."

Rhif yr eglwys yn 1900, 328.