flaenor yma er 1867. Nid mewn doniau y rhagorodd yn gymaint ag yn y defnydd a wnaeth ohonynt. Amcanai lanw y swydd a ymddiriedid iddo, prun bynnag ai athraw ai arolygwr yn yr ysgol, a'i blaenor yn yr eglwys. Grym cymeriad a roes iddo ei ddylanwad. Perchid ef gan bawb. Gwladeiddiai'r anystyriol yn ei ŵydd. Cadwyd gŵyl ar ddiwrnod ei gynhebrwng yn y gloddfa o barch iddo, ac yn y cynhebrwng yr oedd pob dosbarth yn yr ardal. (Goleuad, 1873, Gorff. 5, t. 11).
Yn 1874, neu oddeutu hynny, yr ymadawodd John Lloyd Jones i'r Bontnewydd. Efe, ymhlith ei frodyr, ydoedd y tebycaf i'w dad, John Jones Talsarn. Ac yr oedd y tebygrwydd hwnnw yn un amlwg iawn, yn gyfryw ag oedd yn peri fod John Jones ei hun megys yn ymrithio o flaen y llygaid ynddo ef. Yr oedd hynny yn wir hyd yn oed i'r sawl oedd heb adnabod John Jones yn y corff, os yn adnabyddus ohono yn ei lun, a thrwy adroddiadau eraill. Yr oedd John Lloyd y mab yn ddyn lled dal, cymesur, go led gnodiog, gydag osgo lled urddasol, ac â wyneb lliwgar, prydweddol anarferol. Tra thebyg ydoedd i'r llun a welir o'i dad ynglyn â'r Cofiant, tra thebyg o ran prydwedd, ond eto yn colli o ran y mynegiant, neu'r peth uchaf i gyd ym mynegiant wyneb ei dad, sef yr edrychiad hwnnw tuag i fyny, a chynghanedd ysbrydol y wynepryd. Daeth y mynegiant cynghaneddol hwnnw, yn y man, i wynepryd y brawd arall o weinidog, sef David Lloyd Jones. Gyda chyffyrddiad amlwg o debygrwydd rhyngddo yntau a'i dad, y golomen yn hytrach a dywynnai allan yn ei brydwedd ef, tra mai'r eryr a welid yn John Lloyd, megys yn ei dad. Nid tebygrwydd o ran prydwedd yn unig ydoedd y tebygrwydd y sonir am dano, ond hefyd o ran cynneddf feddyliol a dawn ac anianawd. Mae lle i gredu y meddyliai ei dad yn uchel ohono. Arferai Robert Owen Tŷ draw a dweyd y bu y tad â'i feddwl mewn gwewyr ynghylch y mab hwn, ac y bu yn gadael ei dŷ am un arddeg ar y gloch yn y nos, a myned i'w gymell ef i bregethu. Yr oedd John Lloyd y pryd hwnnw yn dechre ymgyfoethogi yn y byd, ac yn dangos medr anarferol fel masnachwr. Ni ragorai mewn dawn i weithio'r chwarel, ond nid oedd ei hafal am werthu chwarel i'r fantais oreu. Yr oedd ynddo ryw gyfuniad eangfawr o adnoddau. Yr oedd ei fam ynddo cystal a'i dad, yn tynnu'n dorch am y llywodraeth yn ysbryd y meddwl. Y corff ydoedd eiddo'r tad, a'r enaid, a'r anian hefyd, o ran yr amlygiadau arwynebol ohoni; ond yn rhyw wreiddyn cudd-