Difeddwl-ddrwg oedd John Reade, diddichell, diabsen, diniwed, diargyhoedd ei fuchedd, a difrycheulyd yn ddiau ydyw efe heddyw.
Hen gymeriad dyddorol oedd y William Ifan y crybwyllwyd am dano. Addysgwyd ef yn ysgol moeseg Nebo, ac yr oedd yn ysgolor teilwng. Ei dri chasbeth: barf, y tonic sol-ffa a Sais. Nid hoff ganddo John Reade, oblegid ei fod yn Sais. Gwylltiai yn enbyd os eid yn y gwddf i'w ragfarnau; ond chwiliai am gyfle i gymodi cyn machlud haul. Gyda'i syniadau cyfyng a'i dymer wyllt, ar ei liniau byddai yn union deg yn y nefoedd, a mynych y gwelid dwy ffrwd loew yn treiglo dros ei ruddiau wrth wrando'r Efengyl. Pigog ei ysbryd drwy'r cwbl. Dywedai John Robinson mai hen ddyn go gâs oedd ganddo, ond ei fod yn gristion gloew. Selog i'r eithaf gyda'r achos. Byrr fu ei arosiad yma.
Yn 1884 dewiswyd i'r swyddogaeth, Thomas Roberts Cae Goronwy; ac yn 1887, John Jones y Geulan, Thomas Evans a Richard M. Griffiths. Yn 1887 yr ymadawodd Thomas Roberts, un o bedwar swyddog cyntaf yr eglwys, i Saron, a galwyd ef i'r swydd yno. (Gweler Saron).
Yn 1893, rhoddwyd galwad i'r Parch. Morris Williams o eglwys Llangwm.
Erbyn 1900, dyma gapel newydd eto wedi ei orffen. Mewn llai na 36 mlynedd dyma'r hen gapel, gyda'i furiau o flociau cerryg, ei gerryg toi trilliw, ei ffenestri a'i ddorau yn pwyntio i'r nen, ynghyda'i ffawydd coch, ei binwydd cyrliog, ei lampau pres a'i deils amryliw, i gyd yn gydwastad â'r llawr, a chapel newydd mwy eto, yn adeilad cryf a chadarn a chyfaddas a hardd wedi ei godi yn ei le. Y pensaer celfydd, Mr. R. Loyd Jones Caernarvon; yr adeiladydd, Mr. Richard Jones Llanwnda. Yr ymgymeriad, £2,700. Y draul i gyd dros £3,000. Yr oedd dyled y capel blaenorol wedi ei dileu erbyn 1884, ac nid oedd dyled y capel newydd erbyn diwedd 1900 namyn £1,946.
Dywed Mr. O. J. Hughes, mewn cyfeiriad at y traddodiad mai'r Hen Ysgubor ydoedd ystabl y brenin ar y pryd, fod yr achos yma, fel y Meistr ei hun yn hynny, wedi cychwyn ei yrfa yn llety'r anifail. Eithr os felly yr ydoedd, y mae erbyn hyn mewn palas, nid o arian, y mae'n wir, ond o eithaf deunydd serch hynny; ac wedi ei addurno, hefyd, yn ddymunol dros ben, nid mewn dull mor