Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/327

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cynnydd graddol ar y cyntaf. Yn niwedd 1868, rhif yr eglwys, 96; casgl at y weinidogaeth, £37 7s.; swm y ddyled, £988. Yn 1873, sef ymhen pum mlynedd,-y rhif, 114: casgl at y weinidogaeth, £42 5s.; swm y ddyled, £893.

Yn 1870 ymadawodd William Griffith Coetmor i Benygroes, a galwyd ef i'r swyddogaeth yno. Cyn bo hir, sef rywbryd yn 1871, debygir, symudodd Owen Rogers, hefyd, i Lanllyfni, a bu yn flaenor yno am oddeutu 6 blynedd, sef hyd 1877, pryd y dychwelodd yn ol i ardal Talsarn ac eglwys Hyfrydle.

Ionawr 25, 1871, dewiswyd William Thomas Bron eryri yn flaenor. Tachwedd 16, 1871, dewiswyd William Griffith Bronmadoc a John Owen (Railway Terrace). Symudodd John Owen i Borthmadoc. Nodweddid ef gan ffyddlondeb i bob moddion. Bu William Griffith ar ol hyn yn ysgrifennydd yr eglwys am chwarter canrif.

Oddeutu'r pryd hwn, fe fu yma ddigwyddiad go hynod. John Owen Jones Capel Coch oedd wedi pregethu ar fygythion yr Arglwydd yn erbyn yr anuwiol, a gofynnwyd yn y seiat ar ol, a oedd rhywun wedi aros o'r newydd. Cododd Robert Benjamin Williams ar ei draed, a gwaeddodd allan, "Oes, y fi," gan godi ei law i fyny. Eisteddodd i lawr, ac yn y fan bu farw.

Mai 3, 1874, dewiswyd yn flaenor, Robert O. Roberts Bryncelyn. Mawrth 22, 1876, galwyd y Parch. William Hughes yn ffurfiol yn fugail ar yr eglwys. Erbyn y flwyddyn hon yr oedd rhif yr eglwys yn 144, cynnydd o 30 ers 3 blynedd. Y ddyled yn £750.

Bu Thomas Jones, un o'r tri blaenor cyntaf, farw, Mawrth 22, 1877. Dywed Owen Rogers am dano ei fod yn hynod weithgar a chydwybodol gyda'r achos yn ei holl rannau." Efe hefyd oedd arweinydd y canu. Canwr gwych yn ei ddydd. Rhoid yr enw o bencantor" arno cyn dyfod ohono i Hyfrydle. Ceidwad yr athrawiaeth. Athraw rhagorol. Llafuriodd yn ffyddlon gyda'r plant.

Yn 1879 yr ail wnawd llawr y capel, ac y rhoddwyd llofft arno. Y draul oddeutu £1,000. Swm y ddyled y flwyddyn hon, £1,383. Rhif yr eglwys, 167. Tachwedd 19, o'r un flwyddyn, y dewiswyd John Williams Frondirion a William Williams Frondeg yn flaenor- iaid. Wedi symud yma yr oedd y blaenaf o Cesarea, lle yr ydoedd yn y swydd ers 1871—2.