Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/329

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Try'r difrifol wr i wenu
Medr chware ar holl dannau
Calon bur y plentyn bach
Ond ynghanol y llawenydd
Ceidw'i le fel tad a sant.

Hen gynefin ei feddyliau
Ydyw llwybrau'r ysgrythyrau.

Iawn gyfranna air y bywyd
Wedi mynd trwy'r rhan ddechreuol
Yn ddirodres, syml, difrifol,
Edrydd i ni'r adnod fydd
Dan ystyriaeth, a naturiol
Yw y pwyslais arni rydd.
Adnod seml, hanesyddol,
Ydyw—tywys yntau ni
Drwy'r amgylchiad—(mor ddyddorol !)
Gynt a'i hachlysurodd hi.
Yna seilia arni fater—
Mater haedda sylw'r oes,
Mater cymwys iawn ar gyfer
Ei harferion, ysbryd, moes.
Nid yw'n siarad yn daranol,
Nid yw'n edrych yn fygythiol,
Nid yw'n yngan dim eithafol,
Er ei fod yn magu gwres.
Digon prin yw'r geiriau dynol,—
Gwell yw'r hen adnodau dwyfol :
Diau fod eu swn effeithiol
I'r caleta'n gwneuthur lles.
Nid oes yma ehediadau,
Na chynhyrfiol feddylddrychau,
Nac areithiol ysgogiadau,
Na hyawdledd meddwl dyn.
Dim ond syml egwyddorion,
Doeth geryddon a chynghorion
Wedi eu trwytho â detholion
Geiriau'r Beibl pur ei hun
Dyn sydd yma
yn teimlo'i fod yngwyddfod,
Ac yn llaw'r Cymodwr mawr. (Alafon).

(Cofiant W. Hughes, gan H. Menander Jones. Goleuad, 1879, Hydref 11, t.13)

Yn nechre 1881 trefnwyd Hyfrydle yn daith gyda Baladeulyn. Gynt gyda Bethel, Penygroes.

Yn 1883, R. O. Roberts yn symud i Lanllyfni. Yn 1885 y daeth y Parch. David Jones, gynt o Lanllyfni, yn ol o sir Ddinbych, ac a ymaelododd yma, gan aros yma hyd 1889.

Bu Owen Rogers farw Mawrth 3, 1890, yn 68 oed, ac wedi bod yn flaenor yma o'r cychwyn. Yr ydoedd ef yn frawd i'r Parch. Robert Owen Tŷ draw, ac yn dwyn tebygrwydd gwanaidd iddo. Nid hwyrach mai yn yr arwyddion o ddiystyrrwch y gwelid y