Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/332

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHOSGADFAN.[1]

CYCHWYNNWYD yr ysgol Sul yma oddeutu 1840 yng Nghae'r gris, tŷ annedd yn ymyl yr addoldy presennol. Cangen ydoedd o ysgol Rhostryfan, a gofelid am dani gan John Williams Fachgoch a John Williams Ty'nrhosgadfan, dau o flaenoriaid Rhostryfan. Ymhen rhai blynyddoedd, oblegid amgylchiadau teuluaidd, gorfu ei rhoi i fyny.

Adeiladwyd ysgoldy yma yn 1861, yn cynnwys lle i gant of bobl. Pris y tir, £19. Ysgol yn unig a geid yma ar y cychwyn. Yn fuan, pa fodd bynnag, ceid pregeth hefyd yn y prynhawn o Rostryfan, trefniant a barhaodd hyd 1877. Nodir y rhai hyn fel y rhai fu'n gofalu yn fwyaf neilltuol am yr ysgol: John Owen. Brynbugeiliaid, Robert Jones Bryngro, O. Roberts Brynffynnon, William Jones Llwyncelyn, Owen Griffith Brongadfan. Bu John Owen farw, Ebrill 1875, wedi profi ei hunan yn was da a ffyddlon. (Gweler crybwylliadau am dano ef ynglyn â hanes eglwys Rhostryfan).

Yn yr haf, 1876, yr adeiladwyd y capel presennol, ar draul o £850. Ebrill 8, 1877, y traddodwyd y bregeth gyntaf ynddo, gan y Parch T. Gwynedd Roberts. Agorwyd ef yn ffurfiol, Mehefin 12, 1877, pryd y pregethwyd gan y Parchn. John Pritchard Amlwch, G. Roberts Carneddi, a W. Jones Felinheli.

Sefydlwyd yr eglwys nos Iau, Medi 13, 1877. Ymunodd â'r eglwys y noswaith honno 66 o hen aelodau Horeb, ac yn eu mysg un o'r blaenoriaid, sef Robert Jones Bryngro. Ymgymerodd Mr. Gwynedd Roberts â'r fugeiliaeth o'r cychwyn. Dewiswyd hefyd. yn flaenoriaid ar sefydliad yr eglwys: O. Roberts Brynffynnon, William Jones Llwyncelyn, Owen Prichard Gaerddu, yn ychwanegol at Robert Jones.

Fe ddywedir ddarfod i Fethodistiaeth golli lliaws o bobl yn y cyfnod cyn sefydlu yr eglwys, gan yr elai y teuluoedd a ddeuai i'r ardal o'r newydd yn fynych at yr Anibynwyr i Hermon, Moeltryfan, oherwydd pellter y ffordd i Horeb.

  1. Ysgrif o'r lle. Nodiadau y Parch. T. Gwynedd Roberts.