Cyson efo'r ddyledswydd deuluaidd, heb ymfoddloni ar un cyfrif fyned i'r chwarel heb y gwasanaeth. Darllen y Beibl drwyddo yn rheolaidd yn y gwasanaeth teuluaidd; ac wedi tyfu o'r plant i fyny, darllen bob yn ail wers gyda hwy, ac yn fynych canu pennill. Aeth drwy'r Beibl amryw weithiau yn y dull hwnnw yn ei deulu. Yn dwyn mawr sel dros gysegredigrwydd y Saboth, gan argyhoeddi'r halogwr ohono yn llym. Hoff bennill iddo ar hyd ei oes, "'Rwy'n edrych dros y bryniau pell am danat Iesu mawr." Mab iddo ef yw'r Parch. R. Silyn Roberts, M.A.
Adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol: "Teimlem fod dosbarthiadau'r plant yn lled ddiffygiol eu trefniant. Caem rai yn dysgu sillebu mewn dosbarth, tra'r oedd eraill ynddo wedi myned gryn bellter heibio hynny. Caem yma rai dosbarthiadau tra rhagorol. Llawenhaem wrth weled maes y Cyfarfod Misol yn cael sylw mor gyffredinol yn yr ysgol hon."
Ym mhreswylfod Robert Jones, sef Tanrallt, y dechreuodd Robert Owen Tý draw bregethu. Bu David Lloyd Jones yn fachgen go ieuanc yn cymeryd rhan yn y cyfarfodydd gweddi yn y tai, os nad yma y dechreuodd efe gymeryd rhan gyhoeddus. Ymhlith ffyddloniaid yr achos cyn adeiladu capel a ffurfio eglwys, enwir, Robert Jones Tanrallt, John Williams Brynllidiart, John Williams Cae engan, Humphrey Williams Taldrwst, ynghyda theulu Ty'ny- weirglodd, sef William Hughes, Pierce Hughes a John Hughes.
Y mae Mr. Evan Roberts wedi ysgrifennu cofiannau i rai o garedigion yr achos yn ychwanegol at y rhai a roddwyd eisoes. Bu'r rhai a nodir o hyn ymlaen i gyd yn arolygwyr ar yr ysgol yn y dyddiau cyn agoriad y capel. John Williams Cae engan a edrychid arno fel y prif athraw yn yr ysgol Sul yma yn ei amser. Hyddysg yn yr ysgrythyrau ac yn ddiwinydd rhagorol, fe edrychid arno braidd fel math ar geidwad y ffydd. Yn rhagori, hefyd, fel ym- ddiddanwr ar bynciau crefydd ymhlith ei gydweithwyr yn y chwarel, lle y ceid y cyfryw bynciau y pryd hwnnw yn fynych yn bynciau ymddiddan. Hyfforddodd ei blant mewn dysgeidiaeth Feiblaidd, sef y Parch. W. Williams Rhostryfan, Henry Williams, blaenor yn Llanllyfni a Robert Williams, un o flaenoriaid Tanrallt, ac wedi hynny, Bwlchderwydd. Bu ef farw yn 1884.
Ellis Williams Taleithin oedd un o'r gweddiwyr mwyaf ysgrythyrol, a byddai ei ysbryd yn fynych dan eneiniad yn y cyflawniad