SARON, PENYGROES.[1]
YN 1872, mewn cyfarfod athrawon yn Bethel, y penodwyd amryw frodyr i gymeryd gofal ysgol i blant tlodion yn y rhan isaf o'r pentref. Sicrhawyd y neuadd gyhoeddus i'r amcan. Dros ystod rhai blynyddoedd ar y cychwyn plant yn unig a ddeuai i'r ysgol at yr athrawon. Eithr wrth chwilio am blant a esgeulusent yr ysgol, fe ddeuid o hyd yn awr ac eilwaith i eraill hŷn nad elent nac i'r ysgol na phrin ychwaith i unrhyw foddion eraill. Penderfynwyd o'r diwedd ffurfio dosbarth i'r esgeuluswyr hyn o'r ddau ryw, a bu'r cais i'w cael ynghyd yn llwyddiannus. Cynelid yr ysgol dan arolygiaeth Mathew Hughes Beehive ar y cyntaf, a chynorthwyid ef gan Thomas Powel Bryncir Terrace, William Griffith Tŷ capel, Morris Parry, Ebenezer Owen, Henry Jones Ceiri House, Elizabeth Owen Llwyndu House, Catherine Owen Melsar House ac Ann Jones Ceiri House. (Canmlwyddiant yr Ysgolion Sul, t. 27).
Daeth rhyw anghydwelediad i mewn rhwng y fam-ysgol a'r gangen. Meddyliwyd yn Bethel am roi terfyn ar y gwaith yn y neuadd. Ar hynny, fe benderfynodd y rhai oedd yn gofalu am ysgol y neuadd godi ysgoldy ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Sicrhawyd y dernyn tir ar brydles o 99 mlynedd o 1882, am £1 17s. 6c. fel rhent blynyddol. Dyma'r rhai a aeth yn gyfrifol am yr ysgoldy: R. Benjamin Prichard, W. Price Griffith, John Jones Bryncir Terrace a Griffith Roberts. Gwnawd cytundeb â'r brodyr eraill a berthynai i'r ysgol, i'r perwyl fod pawb o ddeiliaid yr ysgol yn dod dan yr un cyfrifoldeb a'r pedwar a arwyddodd y weithred, ac nad oedd yr ysgoldy i'w defnyddio ond yn unig ynglyn â gwasan- aeth yn dwyn perthynas â'r Methodistiaid, neu dan nawdd Methodistiaid. Cwblhawyd yr adeilad yn 1881. Y draul yn £200. Ymhlith y rhai a fu'n arolygwyr ar yr ysgol hon o'r cychwyn hyd adeg codi'r capel, yr oedd Mathew Hughes, Griffith Lewis, Henry Jones Ceiri House, Cadwaladr Evans, R. Benjamin Prichard a Griffith Roberts.
Yn 1883, yn groes i'r teimlad yn Bethel, y rhoes y Cyfarfod Misol ganiatad i sefydlu eglwys ynglyn â'r ysgoldy. Ymadawodd 47 o aelodau Bethel i'r amcan hwnnw. Rhif yr eglwys yn niwedd 1883, 68. Yn ol yr Ystadegau, fe dderbyniwyd 22 o'r byd a 70 o
- ↑ Ysgrif Griffith Roberts.