Yr ydoedd efe yn un o bedwar blaenor cyntaf eglwys Baladeulyn. Yr oedd ei ddyfodiad i Saron yn ymddangos yn rhagluniaethol ynglyn âg arweiniad y gân. Llanwodd y ddwy swydd, blaenor ac arweinydd y gân am 15 mlynedd. Ei nodweddion arbennig ef, yn ol Griffith Hughes y cenhadwr, oedd ffyddlondeb, gweithgarwch ac ysbryd tangnefeddus. Ni fyddai fyth yn absennol o'r moddion ond o raid. Pa waith bynnag yr ymaflai ynddo fe'i gwnelai â'i holl egni. Gweithiodd lawer gyda dirwest, ynglyn â'r Gobeithlu ac à Themlyddiaeth Dda. Efe oedd llywydd y gymdeithas lenyddol yn Saron y tymor olaf cyn ei farw ef. Bu amryw weithiau yn arolygwr yr ysgol. Ymdaflai o lwyrfryd calon i waith gyda'r plant. Gwr haelionus, ac yn neilltuol hoff o blant. Tyner ei galon, go- beithiol ei dymer, yn fab tangnefedd, yn weithiwr difefl gyda phob rhan o'r gwaith, hyd y cyrhaeddai ei allu, fe dynnodd serch yr eglwys, hen ac ieuainc, ato'i hun. Cynhebrwng mawr, fel eiddo gwr a gerid gan y bobl. (Goleuad, 1897, Rhagfyr 8, t. 6).
Yn 1897 fe helaethwyd y capel ar draul o £750. Rhif yr eglwys, 166; y plant, 84. Cyfartaledd yr ysgol, 133. Y ddyled, cyn yr helaethiad, £480; erbyn diwedd y flwyddyn, £1137.
Ym mis Chwefror, 1898, dewiswyd yn flaenoriaid, John Jones Eldon House a G. Rowland Williams.
Coffawyd am farwolaeth Griffith Roberts yn y Cyfarfod Misol, Ebrill 23, 1900. Efe a'i dad a'i daid yn wŷr yn dwyn mawr sel dros waith yr Arglwydd. Griffith Roberts Tanygraig (Capel Seion, Clynnog) oedd y taid, a Robert Roberts, ei fab ef, a blaenor yn yr un capel, oedd y tad. Y ffydd ddiffuant ag oedd yn ei daid a'i dad, diameu ei bod ynddo yntau hefyd. A'r un wedd y swydd o flaenor. Efe oedd un o bedwar blaenor cyntaf Saron. Efe, hefyd, oedd ysgrifennydd yr eglwys. Difefl fel gweithiwr yn fwy na dawnus fel siaradwr. Danghosodd yr ysbryd hwnnw yn wyneb anhawsterau cychwyniad y gwaith yma. Yr oedd ei aelwyd ef yn Saron. Pan glywai am neb o'r bobl ieuainc yn dechre cyfeiliorni oddiar y ffordd, fe ae i ymddiddan yn garedig â hwy. Bu am dymor maith yn arwain cyfarfod gweddi y bobl ieuainc, ac yn paratoi y plant ar gyfer yr arholiadau. Fel athraw, fel arolygwr, fel cennad i'r cyfarfod ysgolion ac fel llywydd yno, yn gystal ag yn rhannau eraill gwaith yr Arglwydd, fe'i profodd ei hun yn sicr a diymod a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol. Yn