"ddwy eglwys Clynnog," a bernir fod oddeutu 100 ohonynt yn perthyn i'r Capel Uchaf. (Gweler llythyr Robert Jones Rhoslan, Medi 15, 1813).
Nid ymddengys yr erys dim adgofion am ddiwygiadau 1818 ac 1832. Fe ddywedir ym Methodistiaeth Cymru fod yr achos yn ymeangu ar ol yr adfywiadau hyn, ac mai ar ol y cyntaf ohonynt y codwyd Capel Brynderwen a Chapel Seion. Eithr ni chodwyd Capel Seion hyd y flwyddyn 1826, er fod yn yr Hen Derfyn gerllaw achos cyn hynny, efallai cyn 1818. Mewn cofnod yn y Drysorfa (1832, t. 141), fe ddywedir fod yna ychwanegiad o 25 yn y Capel Uchaf fel ffrwyth yr adfywiad, a hynny erbyn diwedd mis Mawrth. Fe barhaodd yr adfywiad hwnnw yn y wlad yn hir ar ol hynny, er y dichon fod y Capel Uchaf wedi cael ei gynhaeaf i mewn yn o lwyr erbyn diwedd Mawrth. Y mae hanesyn bychan yn cael ei adrodd a ddaw i lawr o'r cyfnod hwn. Yr oedd yma hen wr a gwraig yn methu cael dim i'w roi yn y casgl mis ers amryw droion, a digalonnid hwy o'r herwydd. Penderfynnodd yr hen wraig werthu iar, er medru rhoi ohonynt eu cyfran yn y casgl mis; a hi aeth a'r iar gyda hi i farchnad Caernarvon, gan gerdded yn droednoeth gyda'i hesgidiau dan ei chesail, er mwyn eu rhoi am ei thraed wrth ddod i mewn i'r dref. Fe gafwyd chwe cheiniog am yr iar, a rhoddwyd y swm yn gyfan yn ei henw hi a'i gwr yn y casgl mis, yr hyn a barodd i'r ddeuddyn dysyml fawr sirioldeb.
Yn 1841 y dechreuodd John Jones Tai'nlon bregethu, a adwaenid fel John Jones Brynrodyn ar ol hynny.
Nid oeddid yn galw blaenoriaid yn ffurfiol yn yr amser gynt, ond elai y rhai cymhwysaf i'r swydd yng ngrym greddf, nid greddf y person unigol ond greddf yr eglwys yn gyffredinol. Diau fod ambell un y pryd hwnnw yn cymeryd y swydd hon iddo'i hun; ond y rhan amlaf fe geid fod amddiffyn dwyfol ar y swydd. Y rhai cyntaf i gyd i lanw'r swydd yn yr eglwys hon oedd y rhai yma : Morris Marc Llyn-y-gele, Hugh Griffith Hughes, Robert Prys Felin faesog, sef y gwr a ataliai gynddaredd yr erlidwyr, a Robert Roberts Tanrallt. Yn nesaf ar ol y rhai'n, fe lanwyd y swydd gan y gwyr yma : Rowland Williams Henbant mawr, William Jones Cae Mwynau, Thomas Owen Penarth, Thomas Rowland Maesog, Thomas Jones Ffridd, y tri olaf yn myned dan y cyfenwad o'r "Tri Thomas," William Prichard Llwyn-gwahanadl, William