ei sylw... Pregethwr i'r deall a'r farn oedd efe yn hytrach nag i'r gydwybod a'r teimlad....Yr wyf yn meddwl y gellid dweyd mai amlach y gwelwyd ef yn wylo wrth weddio neu bregethu ei hun nag wrth wrando ar eraill. . . .Dyn pwyllog oedd efe, na chyfodai ond anfynych iawn uwchlaw tymheredd naturiol y nwydau, yn caru y dull ymresymiadol yn ei bregethau, gan amlygu dawn a hyfrydwch mewn agoryd seliau, mynegi dirgeledigaethau, cysoni anhawsterau, goleuo pethau tywyll; yn fyrr, esbonio, ath- rawiaethu a phroffwydo oedd llinell fwyaf naturiol ei athrylith, yn hytrach na chwareuaeth areithyddol ar dannau teimlad a nwyd. Byddai ei bregethau bob amser yn meddu trefn, eglurdeb rhesym- egol, a chysondeb meddyliol da."
Y peth amlwg cyntaf a deimlwyd o ddiwygiad 1859 oedd dan bregeth Dafydd Rolant y Bala, ar un nos Sadwrn yngaeaf y flwyddyn, pan ddihidlwyd y gwlaw graslawn uwchben etifeddiaeth yr Arglwydd. Torrodd Thomas Griffith Hengwm, wr ieuanc, i wylo dros y lle, ac ymaelododd â'r eglwys y cyfle cyntaf. Cynhaliwyd yma gyfarfod pregethu, pan wasanaethai Thomas Williams Rhydddu, John Jones Carneddi a John Jones Llanllechid. Cyfrifid hwn yn gyfarfod neilltuol ar ei hyd. Ar un nos Sul yr oedd Thomas Williams yma, ac yn derbyn dau i'r seiat, Simon Roberts a Joseph Jones. Yr oedd Thomas Williams mewn rhyw hwyl ysgafnaidd, mewn math o ddawns corff a meddwl, a thorrodd allan, Dyma Simon yn cynnyg ei hunan i gario'r Groes yn lle Iesu Grist-Go- goniant! A dyma Joseph o Arimathea! Fe fydd yn rhaid i hwn gael y llieiniau meinaf i anrhydeddu'r Gwaredwr, tae' nhw'n costio pum sofren y fodfedd; fe fydd yn rhaid i hwn gael dwyn. peraroglau mesur y can pwys-Gogoniant!" Jane Evans a dorrai allan yn y cyfarfodydd mewn penillion o orfoledd:
Na ryfeddwch mod i'n feddw, gwin a gefais gan fy Nuw,
Y mae rhinwedd y gwin hwnnw yn gwneud myrdd o feirw'n fyw:
Arglwydd, tywallt o'r costrelau fry i lawr.
Daeth awel o Galfaria i chwythu gyda gwres,
Mae'r oerfel yn mynd heibio a'r haul yn dod yn nes,
Mae'r egin yn blaendarddu, hwy ddônt yn addfed yd,
Ni chollwyd un a heuwyd draw yn yr arfaeth ddrud.
Tair teyrnas dan eu harfau aeth i Galfaria fryn;
'Doedd neb ond Iesu ei hunan wynebai'r lluoedd hyn;
'Roedd yno frwydr greulon, a gafael galed iawn,
Ond Iesu a orchfygodd cyn tri o'r gloch brynhawn.
Nid oedd popeth o'r mwyaf nawsaidd yn y diwygiad. Ar ol bod yn gwrando ar Dafydd Morgan yn y pentref, aeth amryw o'r