Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bechgyn i ddynwared y droell yn ei lais pan orfoleddent, yr arwydd sicr fod cnewyllyn bywiol y diwygiad yn dechre myned i golli. Wrth glywed am y pethau rhyfedd yn y Capel Uchaf, fe aeth Eben Fardd yno un noswaith. Wrth ddychwelyd oddiyno, gofynai Mr. John Jones (Fferm Llanfaglan) iddo, pa beth a feddyliai o'r diwygiad? Ymhen ennyd dyma'r ateb, "Fe fydd yn rhaid i rai ohonyn' nhw ddod gryn dipyn yn fwy moesgar gyda'u Hamen cyn bo hir," gan arwyddo, debygid, fod yno fwy o swn nag o sylwedd gan rai yn y cynulliad. Tŷb Mr. Jones yw nad aeth efe yno drachefn ar yr un neges. Er hynny, nid oes amheuaeth mai gwir ysbryd y diwygiad a ddisgynnodd ar yr ardal. Ymhen ysbaid ar ol y cynnwrf, deuai nifer o hen frodyr ynghyd i gyfarfod gweddi am wyth fore Sul. Elai David Jones Bwlchgwynt, y pryd hwnnw yn fachgen ieuanc, atynt i gynorthwyo gyda'r canu. Un bore wrth ganu, "O! ddedwydd ddydd, tragwyddol orffwys," yr oedd y dwyster yn anorchfygol. Canu am ennyd, yna eistedd i lawr i wylo; canu drachefn, yna pangfa o wylo; ac felly drachefn a thrachefn am awr o amser. Dagrau melus iawn. Ac heb sôn am ddagrau, bu effeithiau arosol i'r diwygiad yn amlwg ym mucheddau lliaws hyd ddydd eu marwolaeth, ac erys yr effeithiau hyd heddyw yn nefnyddioldeb parhaus eraill.

Fe wnawd seti newydd i'r capel yn y flwyddyn 1859.

Fel y gwelwyd, yn 1863 y bu farw John Owen yr Henbant. Peth hynod yw na wnawd mohono yn flaenor. Eithr fe flaenorai ef heb fod yn flaenor. Safai ar brydiau yn ei hen ddyddiau ar risyn y pulpud, yn wr tal a main a boneddigaidd yr olwg arno. Yn ei law ef yr oedd yr ysgol i gyd. Elai o ddosbarth i ddosbarth er gweled pa fodd y deuid ymlaen. Ar un tro, methu ganddo gael. athrawon, tri neu bedwar dosbarth wedi myned heb athrawon. Rhoes orchymyn i waith yr ysgol beidio. Methu ganddo ddweyd gair am ennyd gan wylo. Wedi dod ato'i hun, "A oes yma neb gymer drugaredd ar y dosbarthiadau heb athrawon ?" Yr oedd pawb yn ei law ar unwaith, a chodai y naill ar ol y llall i ddweyd y gwnae ef ei oreu.

Ym mlynyddoedd olaf John Owen, fe gododd Owen Jones Cae Ifan i'w gynorthwyo yn y swydd o arolygwr. Bu yntau yn y swydd drachefn ar hyd ei oes. Gwr llednais, siriol, a'i dymer yn gymhwyster i'r gwaith. Dilynai yr un cynllun a John Owen.