Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Elai o ddosbarth i ddosbarth: weithiau rhoi gair i'w sillebu, weith- iau adnod i'w darllen, weithiau gwestiwn ar gyfer y Sul nesaf, a byddai'n sicr o alw am yr ateb. Medrai fod yn daer ac yn amyneddgar.

Yn nhymor John Owen, yr athraw a arferai holi. A byddai mwy o ddarllen y pryd hwnnw, a'r athraw yn cywiro, ac yn gofyn ambell gwestiwn wrth fyned ymlaen. Gwell darllenwyr y pryd hwnnw nag yn awr. Gwell mewn pwnc hefyd. Mwy o feirniadaeth fanwl ar eiriau a'r cyffelyb erbyn hyn. Yr oedd yn y Capel Uchaf yn y rhan olaf o dymor John Owen nifer o hen bobl hollol gyfarwydd yn yr Hyfforddwr, fel nad ellid dim gofyn cymaint a chwestiwn ohono nad atebid ef i'r llythyren. Yn nheimlad lliaws ymddanghosai yr Hyfforddwr mor gysegredig a'r Beibl. Ni byddai holi ar blant y blynyddoedd cyntaf a gofir gan Mr. David Jones Bwlchgwynt. Yn lled gynnar gyda hynny yr oedd William Roberts y pregethwr ar un tro wrth y gorchwyl. "Pwy wnaeth bob peth ?" "Duw," atebai amryw. Gofynnai'r holwr eilchwyl yn bwysleisiol, "Ai Duw wnaeth bob peth ?" "Ie," oedd ateb lliaws. Gyda'r ateb hwnnw, dyma hogyn go fawr yn rhoi cam ymlaen. Nage wir!" ebe fe, "fy nhaid wnaeth feudy Cae Crin." Nid oedd y genhedlaeth ieuanc y pryd hwnnw wedi ei thrwytho yn gymaint ag ar ol hynny am ystyr creadigaeth. Deuai rhai mewn gwth o oedran i'r ysgol am y tro cyntaf i ddysgu eu llythrennau. Yr oedd Dafydd Jones, tad Griffith Jones Coed-tyno, yn ddeugain oed yn dysgu'r wyddor.

Bu'r Parch. John Williams Caergybi, y pryd hwnnw yn athraw ysgol Clynnog, yn dod yma am flynyddoedd i gynnal seiat, hyd y flwyddyn 1875. Yn ei ddilyn ef yn y gorchwyl hwnnw, ar gais y blaenoriaid yn gyntaf, ac wedi hynny ar alwad yr eglwys, y mae'r Parch. Howell Roberts.

Y mae'r argraff gafodd Mr. Williams am yr ardalwyr, yn neilltuol preswylwyr glannau'r môr, eisoes wedi ei chyfleu gerbron yn y rhagarweiniad. Edrydd Mr. Roberts yr argraff ar ei feddwl yntau, yn neilltuol am breswylwyr llethrau'r mynydd. Un peth a argraffodd ei hunan ar ei feddwl ef ydoedd, fod delw Robert Roberts yma o hyd ar y tô hynaf o grefyddwyr y pryd y daeth efe gyntaf i'r gymdogaeth. A dywed ef fod y ffurf neilltuol ar fywyd crefydd a welodd efe yma ar y cyntaf, sef "yr hen dinc a'r gwres a'r eneiniad nefol " wedi ymadael gyda'r hynafgwr olaf " sydd heddyw yn ei fedd, ag y methwyd a'i ddwyn i'r bedd ddoe o'i