Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwthyn mynyddig oherwydd y lluwchfeydd eira, ac yr oedwyd. dydd ei angladd am dridiau er mwyn clirio'r ffordd." Cymeriadau gwreiddiol a dyddorol y disgrifir hwy ganddo ef, heb wybod nemor am reol a threfn, ond yn cymeryd eu ffordd eu hunain heb fod neb yn meddwl am eu galw i gyfrif. Mewn cyfarfod gweddi ar ddydd diolchgarwch, dyma'r ail i gymeryd rhan yn codi i fyny ac yn rhoi allan bennill. Nid oeddys yn arfer darllen yr ysgrythyr ond ar y dechre. Arferai yr hen wr hwn eistedd o dan y ddesc yn y set fawr, a chan ei fod mor agos ati, nid el ymlaen yno, a'r tro hwn fe gymer y Beibl oddiyno, ac oddiar ei eistedd heb gael. ei weled ond gan ychydig fe chwilia am fan i'w ddarllen. Pan gododd i ddarllen yr oedd pawb braidd yn ymgrymu. Eithr gwr eithaf hamddenol ydyw efe, ac el ymlaen yn dawel gyda'r darllen, gan ddweyd yn o ddigynwrf cyn dechre, "Wel, mi ddarllenwn ni bennod o'r ysgrythyr; mae hwn, beth bynnag am ein gweddiau ni, yn werth ei wrando." Codai y naill ar ol y llall oddiar eu gliniau yn y sêt fawr, a chodai eraill eu pennau, ond nid pawb. Nid oedd pawb yn ddigon effro i wybod pa beth oedd yn myned ymlaen. Dyma'r trydydd yn codi yn arafaidd, a'i olwg yn dechre pallu. "Nid wyf yn gweled yn ddigon da i ledio pennill, am wn i; mi ddeuda i'r tipyn sydd ar fy meddwl i yn lle hynny, am wn i." Ac yna, yn lle pennill i'w ganu, dyma glamp o gyfarchiad difyr i'w wrando. Ergyd ac amcan y sylwadau oedd dangos gymaint mwy o achos oedd gennym y dyddiau hyn i fod yn ddiolchgar i'r Brenin Mawr nag yn y dyddiau gynt. Mor afiach y byddai'r dorth yn fynych, ac mor ddrud yn yr hen amser. Yr oedd wedi clywed am lwyth llong o rug yn dod i Borthmadoc, ac am bobl yn myned yno. o bobman gyda throliau rhag newynu. Yna fe gywira ei hunan, "Ond o ran hynny, nid oedd troliau yn y wlad, am wni; nid oedd yr un yn y Gors beth bynnag, mi glywais mam yn dweyd." A'r fath flawd gwyn sydd gennym yn awr, ac mor rad; nid oedd y boneddigion yn cael ei well; mae hyd yn oed y werin bobl bellach yn cael y 'double XX.' Yr oedd y cynhaeaf diweddaf wedi bod yn wlyb, ond fe gafwyd hin weddol i bawb oedd yn ddigon effro i gipio'r cnwd. Y tatws yn unig oedd ar ol, ac am y rheini, eb efe, "mi rhown i nhw rhwng cromfachau, am wn i, a pheidio sôn am danyn nhw." Hyna yn lle pennill!

Yr ail a gymerodd ran, er hynny, oedd y gwr gwir hamddenol. Gwynt teg neu groes, fe'i cymerai fel y deuai. Nid oedd dim braidd.