Uchaf." Galwyd y cyhuddwr i gyfrif yn y cyfarfod brodyr dilynol a gwysiwyd ef gerbron y sêt fawr. Er mwyn ei helpu i wneud yr ymddiheurad gofynnol, ebe'r llywydd, "Mi glywais Robert Ellis Ysgoldy yn codi mewn Cyfarfod Misol ac yn dweyd, 'Gyda'ch cennad, Mr. Cadeirydd, mi ddigwyddodd i mi yn fy ffwdan ddweyd geiriau a roisant friw i fy anwyl frawd, Mr. Rees Jones Felinheli. Mae'n ddrwg iawn gennyf i mi eu dweyd. Hen ffwl gwirion oeddwn i.' Hwyrach y byddwch chwithau, hwn a hwn, ar ol oeri, yn barod. i gyfaddef fod yn ddrwg gennych ddweyd fod hwn a hwn yn felltith i'r achos." Eithr â golwg daiog arno y cododd y gwr drachefn, a chan estyn ei fŷs fel o'r blaen, ail-adroddodd yr un cyhuddiad. Ar hynny aeth yn ffrwgwd go wyllt cydrhyngddynt, ac aeth y brodyr allan. Pan adawyd y ddau efo'u gilydd, hwy aethant yn eithaf cyfeillion. Ar ei wely cystudd, ni thalai neb gan y cyhuddwr i ymweled âg ef ond yr hen flaenor a gyhuddid felly ganddo. Gwaith hawdd fyddai amlhau y cyfryw enghreifftiau, ond digoned a roddwyd eisoes.
Owen Jones yr Henbant, mab John Owen yr Henbant, oedd, yn nesaf at William Parry, y blaenor mwyaf ei ddylanwad a fu yn y Capel Uchaf. Hen lanc heb ddawn gwresog, ond o grefydd ddiam- heuol, a thra chyfarwydd yn yr Ysgrythyr. Dywed Mr. David Jones na chyfarfyddodd â neb mwy felly, ac na welodd mono erioed wrth wrando'r plant yn dweyd eu hadnodau, na fedrai eu cynorthwyo os byddai eisieu. Byddai ei gyfarchiadau yn seiat nos Sul yn fynych yn un gadwen o adnodau, ac wedi eu cymhlethu â'u gilydd yn ddeheuig. Yr oedd Catecism Brown yn gryno yn ei gof. Rhagorai ar ei dad mewn cryfder meddwl a nerth cymeriad a dylanwad cyffredinol. Neilltuedig yn hytrach ydoedd ; ac yr oedd neilltuolrwydd yn ei gymeriad. Ni bu yn y Capel Uchaf yr un yn fwy felly: William Parry oedd yn hynod felly o'i flaen ef a Hugh Jones ar ei ol. Yr oedd ei onestrwydd yn ddiareb; gwybyddid am dano y byddai yn well ganddo wrth werthu anifail ei golledu ei hun na cholledu y prynwr. Dywed Mr. John Williams na fuasai ganddo ef syniad am foneddwr o ysbryd, heb ddim o allanolion boneddwr, onibae iddo adnabod Owen Jones. Dywed Mr. Williams mai nid unrhyw gais i actio'r boneddwr oedd ynddo, mai prin y gellid tybio am y peth yn dod i'w feddwl o gwbl, ond ei fod yno heb unrhyw gais na meddwl o'i eiddo ef, fel ffrwyth natur ac ysbryd yr Efengyl. Yr achos yn y Capel Uchaf, ebe Mr. Wil-