liams, oedd ei safle o edrych ar bob peth: am yr achos y pryderai ac y gweddiai. Er na feddai efe mo wresogrwydd dull y rhelyw o bobl y Capel Uchaf, yr oedd ei ddylanwad er hynny yn fawr arnynt, fel un y credid ganddynt yr arferai ddal cymundeb gwastadol â Duw, fel un llwyr ymroddgar i waith yr Arglwydd, ac fel un, os braidd yn neilltuedig, oedd eto yn dryloew ei fuchedd fel y grisial. Mewn Cyfarfod Misol unwaith yn y Capel Uchaf, o'r neilltu yn y tŷ capel, yr oedd Owen Jones yn adrodd rhywbeth o'i brofiad wrth David Jones, y pryd hwnnw o Gaernarfon, a Mr. William Jones Bodaden, yn fachgen y pryd hwnnw, yno yn gwrando. Fe gyfeiriai at ryw adeg o gyfyngder yn hanes yr achos, cyfyngder gan bwysau'r ddyled efallai, neu ryw achos neu achosion eraill, pryd y llethid ef braidd o'r herwydd. Ond wrth gerdded tuag adref un noswaith, a'r pethau hyn yn pwyso ar ei feddwl, fe dywynnodd ar ei ysbryd yn ddisymwth y fath weledigaeth ar Grist a threfn y prynedigaeth, fel y teimlodd yn y fan y buasai yn foddlon i gymeryd ei ladd er ei fwyn ef, ac na buasai cymeryd ei fywyd ymaith er mwyn yr achos yn ddim mwy yn ei olwg na lladd gwybedyn. Wedi gwrando, fe adroddodd David Jones am Simeon Caergrawnt yn cael rhyw amlygiad cyffelyb i'w feddwl, yn rhyw fwlch neu gilydd, pan y profodd gair o'r Ysgrythyr yn gymhelliad ac yn gysur iddo, ac megys yn cael ei lefaru wrtho gyda chyfeiriad at ei enw ei hun, sef y gair a ddywedir am Simon o Cyrene, "Hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef." Ac un yn cymeryd baich yr achos arno'i hun yn gwbl oedd Owen Jones, pa un a oedd hynny mewn golwg gan David Jones ai peidio, yn y sylw a wnaeth efe. Yr oedd rhyw arfer o duchan a gruddfan gan yr hen frodyr hyn; ac yr oedd yn eithafol yn Owen Jones. Golwg sobr, difrif, fyddai arno bob amser. Dywed Mr. Howell Roberts mai ar wely angau y gwelodd efe y wên gyntaf erioed ar wyneb Owen Jones; ond fod y wên honno yn hardd, yn nefolaidd. "Ni wyddai oddiwrth wenu, nes aeth i wely angeu: 'gwenodd yno yn ei law." Ymadawodd â'r byd heb duchan. Bu ef farw yn 1878.
O holl wyr y Capel Uchaf, tebyg mai Hugh Jones Bron-yr-erw oedd y mwyaf cwbl nodweddiadol. Efe oedd cynnyrch mwyaf priodol y lle. Yr oedd rhywbeth yn William Parry yn ei wahanu oddiwrth y rhelyw, ac i fesur yr un fath yn Owen Jones. Gwerinwr gwargam, uchel ei lais, oedd Hugh Jones. Ni welsai'r hen Gapten