Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/48

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones reglyd o'r Dinas gynt ond taiog delffaidd ynddo, nac ar yr olwg gyntaf arno nac ychwaith wedi ymgyfathrachu ymhellach âg ef. Er hynny, tywarchen o ddaear y Capel Uchaf oedd Hugh Jones wedi ymbriodi â Haul Cyfiawnder. Rhaid peidio cymeryd y dywarchen yn rhy lythrennol chwaith, gan mai dod yma o'r Waen— fawr a ddarfu efe ar ei briodas. I'r craff diragfarn, pa ddelw bynnag, yr oedd rhyw arwyddion o hunan—lywodraeth yn dod i'r golwg ynddo fwyfwy. Yr oedd neilltuolrwydd arno ef yn gymaint ag ar William Parry neu Owen Jones, canys neilltuolrwydd mawr ydoedd hwnnw, pan welid gwerinwr gwladaidd, agored, garw, yn troi yng nghylchoedd breninllys y nef yn gartrefol megys yn ei gynefin mynyddig. Yn ffair Caernarvon, corach crwbi, gwael yr olwg arno ydoedd efe, gyda'i lais yn rhywle i fyny yn yr awyr, yn cyfarch pawb wrth ei enw bedydd, yn yr ail berson unigol yn gyffredin,—oddigerth ambell un a berchid ganddo ar gyfrif safle ei deulu,—wedi ei wisgo yn glud mewn brethyn cartref, a gwraig dal, fochgoch, heb fod nepell oddiwrtho, a hogyn llonydd gyda hwy â'i lygaid yn sefydlog ar ba beth bynnag yr edrychai arno. I hogyn y dref nid oedd Hugh Jones ond enghraifft go dda o'r drel mynyddig. Ymhen rhai blynyddoedd dyma Gyfarfod Misol yn Ebenezer Clynnog. Y pwnc o fedydd yn cael ei agor gan wr ieuanc tal, tywyll, llygatddu, gydag arian byw yn ei gyfansoddiad, a thân aflonydd yn ei lygaid, a neilltuolrwydd yn ei bresenoldeb, a meddyliau byw ganddo ar y pwnc. Eithr nid oes dim yn tycio: nid yw tân y llygaid yn llosgi na'r meddyliau yn cyffro, ac nid oes dim llewyrch ychwaith ar y siarad a ddilyn hyd nes galwyd ar ryw Hugh Jones Bron—yr—erw, i ddiweddu'r cyfarfod, a dyma ddrel mynyddig yr hen ffeiriau gynt yn codi yn ddisymwth o ganol y llawr, a dyma saeth anisgwyliadwy yn gwanu'r awyrgylch nes deffro'r lle i gyd. gyda'r pennill a ddaeth allan o'i enau:

Mae Abraham i ni yn dad,
Nid yw ei had yn aflan;
Yr oeddynt mewn cyfamod gynt,
Ni fwriwyd monynt allan.

Ac yr oedd y weddi drachefn yn yr un cywair. Ni cheid ef fel hyn yn y Cyfarfod Misol bob amser Ar dro arall fe draethodd brofiad go isel, pan y cododd David Morris gan ei gyfarch, "Hugh Jones, tynnwch fwy o waith yn eich pen, fel y bydd raid i chwi fyned at Dduw mewn gweddi am gymorth i'w wneud, ac y mae yn sicr o oleuo arnoch." Tebyg fod amcan y sylw i alw Hugh Jones