Bron-yr-erw, yna gan John Williams Ty'ntwll, wedi hynny John Davies Ty'nlôn, mab Dafydd Jones Bron-yr-erw, a hiliogaeth Dafydd Jones o hynny ymlaen fu arweinwyr y gân. Dilynwyd John Davies gan ei frawd William Jones, ac wedi hynny gan ei fab David Jones Bwlchgwynt.
Adeiladwyd y capel presennol yn 1870, a'r draul ydoedd £480. Yr oedd troi'r hen gapel yn dai yn gynwysedig yn y draul. Adeil- adwyd ysgoldy ynglyn â'r capel yn fuan wedyn am y draul o £150. Adnewyddwyd y capel oddifewn yn 1898 am £500.
Dyma adroddiad ymwelwyr 1885, sef blwyddyn canmlwydd- iant yr Ysgol Sul. "Golwg siriol a bywiog ar yr Ysgol. Gwelliant mawr fyddai cael gwers-lenni gyda'r plant. Gwell fyddai rhoi'r bechgyn a'r genethod bychain yn gymysg. Y dosbarth canol yn dilyn y wers-daflen yn amherffaith. Byddai yn well canu ar ddiwedd y wers-ddarllen nag ar ganol yr Ysgol. Gresyn fod yr holwyddori yn y dosbarth wedi colli, a gwybodaeth y plant a'r dosbarth canol yn llai nag a fu. Y canu yn dda a bywiog, ond eisieu mwy o lyfrau hymnau yn yr ysgol. Agosrwydd serchog yma rhwng athraw a dosbarth. W. Griffith Penygroes, E. Williams Llanllyfni, John Roberts Llanllyfni."
Rhif yr eglwys yn 1854, 78; yn 1862, 103; yn 1870, 95; yn 1900, 122.