oedd y saer maen, ac efe a wnaeth y muriau. Petryal agos oedd ffurf yr adeilad. Yn yr ochr ogleddol yr oedd dau ddrws, a'r pulpud cydrhyngddynt. Fe geid oriel ym mhob talcen, gyda grisiau o gerryg yn arwain i'r naill a'r llall o'r tuallan. Ymhen ysbaid fe rowd y grisiau o'r tufewn. Nid oedd nenfwd iddo, ond yr oedd y gronglwyd a'r muriau tufewn wedi eu gwyngalchu. Goleuid ef â chanwyllau, pedair wedi eu dodi yn y seren o olchiad pres a hongiai wrth gadwyn haiarn o'r gronglwyd, pedair yn y pulpud, a dwy ym mhob oriel. Eisteddleoedd cadarn, uchel, heb obaith i'r plant weled drostynt. Dyna ddisgrifiad Mr. R. R. Williams ohono, un o'r blaenoriaid presennol, yr hwn hefyd a gofia am y ffigyrau 1811 wedi eu torri ar un o'r trawstiau. Y tŷ oedd wrth dalcen gorllewinol y capel, fel yn awr.
Mewn llythyr o eiddo Robert Jones Rhoslan, dyddiedig Medi 15, 1813, fe ddywedir fod 130 wedi eu hychwanegu at ddau gapel Clynnog ers blwyddyn o amser. Bernir fod oddeutu 100 ohonynt yn perthyn i'r Capel Uchaf.
Y tri blaenor cyntaf oedd John Thomas Ffridd; Evan Roberts, a ddaeth o Foel Gwnys, osgo Nefyn, taid ynghyfraith Robert Owen Aberdesach; Richard Hughes Ffridd, hen daid o ochr ei fam i David Hughes Maes. Rhydd Robert Owen Aberdesach nodwedd y tri yn gryno fel yma: John Thomas yn ceryddu; Evan Roberts yn cyhoeddi; Richard Hughes yn rhoi olew ar y dyfroedd. Dywed ef, hefyd, y byddai eisieu rhywbeth neilltuol mewn cyhoeddwr y dyddiau hynny am y byddai cynifer o wyr dieithr yn dod drwy'r wlad i bregethu, a rhaid oedd wrth gof da i'w cyhoeddi yn ddiffael wrth eu henwau a henwau eu hardaloedd, ddau ohonynt yn aml yn yr un oedfa, a mwy nag un oedfa lawer pryd o fewn yr un wythnos, heb son am oedfa'r Sul.
Enwogodd William Williams Caemorfa ei hun efo'r ysgol, ac yntau heb fod ar ddechre ei lafur gyda hi namyn gwr ieuanc iawn. Gyda'r pared y byddai hynny o seti a geid ar lawr y capel. Safai William Williams ynghanol y llawr, o flaen y pulpud, a chyda gwialen hirfain yn ei law fe gyfeiriai at lythrennau'r wyddor, a pha beth bynnag yn ychwaneg fyddai ganddo i'w ddysgu, ac yn y dull hwn fe gadwai bawb yn effro a chawsai sylw yr oll gyda'u gilydd. Efe a ymroes i'r llafur hwn, a bu fyw i weled y llafur hwnnw wedi ei goroni â mawr lwyddiant. John Pugh o Leuar, wedi hynny o