£3 1s. 4½c. Y mae enw [Capt.] Lewis Owen wrth y cyfrif blynyddol, yn arwyddo ei fod wedi ei adolygu ganddo ef.
Golwg eto ar yr ail lyfryn. Nid yw'r taliadau yn dechre dan Mawrth, 1837. Nid yw diod yn cael ei nodi er Ionawr, 1836. Talwyd am fwyd yn ystod y tri mis, Mawrth—Mai, 22s. 11c. Talwyd am bregethu yn ystod yr un amser, Sul, gwyl a gwaith, 31s. 6c., am yr hyn y bu un ar hugain o bregethwyr yn gwasanaethu. Yn ymyl y mae'r canwyllau yn 6s. 8c.: ond ni wyddys pa hyd y pery eu goleu. Dyma draul Cyfarfod Misol ym Mrynaerau ym Mehefin, 1837. Mae hwn wedi ei ysgrifennu yn Saesneg, a chan fod Saesneg y cyfnod hwnnw yn amheuthyn, fe'i dodir i lawr. Mae'r lawysgrifen yn dda, ac fe welir fod y Saesneg yn eithaf da braidd: June, 1837. Dr. Monthly Meeting at Bryn: To Flower, £1; 7lb of Lump Sugar 9d., 5s. 6½. [felly i lawr]; 5lb of Cheese 9d., 4s. 1½d.; ¾lb Tea, 4s. 8d.; 1oz of Green Tea, 6d., 1oz Musd. 5d., 11d. Bundle hay, 2s. 6d.; 1oz Black Tea, 5d.; 541b Beef 6d., £1 7s. Od. ; 241b Veal 6d., 12s.; 11lb Bacon 6d., 5s. 9d.; ½ Ton Coals & Turnpike, 8s. 5d.; Cibin of Peas, 3s. 9d.; Preachers, 16s.; Gwen Jones assistance, 4s.; 21b Butter, 2s. 4d.; ¼lb Tea, 1s. 9d." Mae'r cyfanswm, fel y mae i lawr, yn £5 19s., yn wirioneddol yn £5 18s. 2 d. Os nad yw tâl y pregethwyr yn uchel, fe welir fod yma arlwy eithaf da, a diau fod Gwen Jones yn haeddu ei thâl.
Y trydydd llyfryn. Dyma William Prytherch a'i gyfaill, 3s. 6c. Y mae efe i lawr o'r blaen, unwaith o leiaf. Talwyd i John Jones Pandy am dybaco ac edrych ar ol y tŷ, 2s. 6c. Dyma John Elias ar Awst 30, 1840, sef y Sul, os nad 31 ydyw, 2s. Yr un faint a delir bellach i weinidogion Arfon yn gyffredin, a dyma Daniel Jones ar yr un tudalen, o dipyn o bellter, 2s. 6c. Oz. tybaco pibelli 3½c. Anfynych y digwydd y manyn olaf yma.
Nid yw'r pedwerydd llyfryn yn cynnwys nemor ddim newydd, heblaw ambell enw fel William Charles a David Howells.
Yn y pumed llyfryn, 2s. 6c. sydd wrth enwau John Jones Talsarn ac Owen Thomas yn 1844. Erbyn 1845 dyma dalu am ddwy oedfa i'r un pregethwr, canys yr ydys bellach wedi ymgysylltu fel taith â Bwlan, ac yn cael dwy oedfa bob yn ail Sul. Dyma William Prytherch yn Rhagfyr, 1845. Y mae bwlch yn y cyfrif dros y blynyddoedd 1846—50. Y mae enw William Roberts i lawr saith gwaith am 1852; ond nid ymddengys enw neb arall yn fynych