yn ystod y blynyddoedd. Chwe cheiniog ddanfonid i'r Cyfarfod Ysgol. I Gyfarfod Misol Clynnog, 14s. Y mae enw Capt. Owen wedi peidio ymddangos yn y llyfryn diweddaf yma fel arolygydd y cyfrifon. Pethau eraill yn parhau yn lled debyg. Y mae llyfrau cyfrifon y cyfnod hwn wedi myned ar goll y rhan amlaf, ac y mae eraill yn ddiau ar gael nad yw yn hawdd taro wrthynt. Eithr fe wasanaetha yr ychydig y rhoir enghreifftiau allan ohonynt yma ac acw er dangos hanes cyfrifon eglwysi eraill am yr un blynyddoedd, canys nid oedd nemor wahaniaeth rhyngddynt, o fewn yr un cyfnod o amser, oddigerth rhyw gymaint yn yr eglwysi mwyaf i gyd.
Yn 1858 y dechreuodd Henry Griffith bregethu, yn ddeunaw mlwydd oed. Bu farw yn 23 mlwydd oed, pan ar fin gorffen ei efrydiaeth yn y Bala. Tymer ddwys a'i nodweddai, a threuliai lawer o amser mewn gweddi. Yr oedd difrifwch yn ei wedd, a thynerwch yn ei lais, a chawsai ei bregethau effaith neilltuol, ac yr oedd ei goffadwriaeth yn berarogl.
Dan bregeth Edward Roberts y Ceunant ar brynhawn Sul tua diwedd Medi, 1859, y teimlwyd awel y diwygiad yn Brynaerau. Ni chyfrifid Edward Roberts yn wr yr awelon; ond fe ddaeth y wir awel lawer pryd arall trwy wŷr llonydd. Ychwanegwyd 54 at rif yr eglwys. Ymhlith eraill, daeth D. W. Pughe, y meddyg, ymlaen, gwr go anhawdd ei drafod. Fe ddywedir ddarfod iddo alw am gyfarfod gweddi i'w dŷ, newydd ei adeiladu; ond ar waith ryw hen frawd yn erfyn am fendith o dan y gronglwyd honno, fe dorrodd yntau allan ar ei draws, "Beth yr wyti yn galw fy mhlas i yn gronglwyd?" Aeth John Griffith y blaenor ato. Go blaen fu yr holi. Yn ol Cofiant Dafydd Morgan, y cwestiwn cyntaf oedd, "Wel, Doctor, beth sydd gennychi i ddweyd heno? Ydychi wedi dechre gweddio, dwedwch?" "'Doeddwn i ddim wedi rhoi hynny heibio," oedd ateb y meddyg. "Ie, machgen i," ebe John Griffith, "fe gafodd y wraig honno ddwfr i olchi traed Iesu Grist o le rhyfedd iawn," gan awgrymu fod y Dr. yn rhy iach ei deimlad. Yn ol Robert Owen Aberdesach, cwestiwn arall o eiddo John Griffith ydoedd, "Wel, Dafydd, sut yr wyti o dan dy groen." Galwodd y meddyg ar ol hynny i adrodd ei gŵyn wrth Ann Roberts, mam Robert Owen, ac fel y dywedir yng Nghofiant Dafydd Morgan, nid aeth y meddyg ar gyfyl y seiat mwyach. Efallai, wedi'r cwbl, fod rhywbeth i'w ddweyd ar ei ochr yntau; a bod yr hen frodyr ar adegau yn colli yn y boneddigeiddrwydd ag sy'n un o briodoleddau