dynnu o ffynonellau eraill; weithiau y mae'r rhan fwyat, neu agos y cwbl, wedi ei dynnu o'r ffynonellau hynny, sef yn bennaf y rhai y cyfeirir atynt ar waelod y dalennau ynglyn â phob eglwys. Dodir y cyfryw gyfeiriadau i mewn yn bennaf er mwyn y rhai a fynnai chwilio ymhellach i'r hanes a roir yn yr adrannau hynny.
Ysgrifennwyd yr hanes yn llawn cymaint er mwyn y sawl a deimla ddyddordeb yn yr hanes yn gyffredinol ag er mwyn y neb a deimla ddyddordeb yn fwyaf arbennig yn hanes rhyw eglwys neilltuol. Parodd hyn roi lle go helaeth weithiau i gymeriadau neilltuol y tybid y gallasai eu hanes fod yn gymorth i fyned i mewn i fesur i wir gyflwr pethau, neu i gipio i fyny wir ysbrydiaeth pethau. Dichon fod eraill o gymaint gwerth i'r eglwys a hwythau, neu o fwy gwerth, pryd nad atebai ymhelaethu arnynt unrhyw ddiben neill- tuol. A lle y bernid nad atebai ymhelaethu unrhyw ddiben, buwyd mor gryno ag y gwyddid sut. Er hynny, gwnawd llawer o ymdrech i gael defnyddiau ychwanegol pan y gwelid hwy yn brin. Ac y mae lliaws o grybwylliadau tair neu bedair llinell o hyd yn ffrwyth cymharu adroddiadau o dair neu bedair o wahanol ffynonellau. A gwnawd eithaf defnydd o bob ffynonnell cyson â dull cryno o gyfleu'r hanes. Ac hyd yn oed lle nad ydoedd y defnyddiau ar y cyntaf yn brin, chwiliwyd am ddefnyddiau ychwanegol yno hefyd, er mwyn y fantais o edrych ar bersonau a phethau o wahanol gyfeiriadau.
Dengys y cyfeiriadau ar waelodion y dalennau i ba raddau y llwyddwyd yn y cais am ddefnyddiau ychwanegol. Canys, gydag eithriad neu ddau, ni ddanfonwyd yn swyddogol megys, namyn un ysgrif o bob lle, a honno yn gyffredin yn ferr, ac ambell waith yn ferr iawn. Ymhen hir a hwyr y cafwyd lliaws o'r rheiny, heb fod pob un wedi dod i law eto. Ac er cael cryn gymorth gan liaws, yn seithug y troes allan y cais a ddanfonwyd at amryw eraill yma ac acw am eu hadgofion. Nodir hyn yma er dangos mai nid ychydig ydoedd y drafferth a gymerwyd i gael yr hanes yn llawn a theg. Nid oeddwn i fy hun o gwbl mor hyddysg yn hanes yr eglwysi ag y buasai'n ddymunol fy mod, ond gwnaethum fy ngoreu i gyflenwi hynny o ddiffyg yn y modd y crybwyllwyd.
Gan mai yn Nosbarth Clynnog a Dosbarth Caernarvon yn bennaf y cafwyd y defnyddiau ychwanegol y crybwyllwyd am danynt, y mae'n anhawdd credu nad oes eto ym meddiant gwahanol bobl ddefnyddiau tebyg, sef ysgrifau ar hanes yr achos, neu ar gychwyniad a chodiad yr ysgol Sul, neu ar hen gymeriadau mewn ardal, neu gofnodion o hen seiadau, neu hunan-gofiannau, neu ddydd-lyfrau yn cynnwys cyfeiriadau at yr achos crefyddol, neu restrau o bregethwyr, neu gyfrifon eglwysig. Er mwyn i'r ddau olaf fod o ddigon o ddyddordeb, hwy ddylent fyned cyn belled yn ol, dyweder, ag 1840. Os yw'r cyfryw bethau ym meddiant neb y gelwir