ysbrydol wrth wrando ar John Elias, a bwriodd ei goelbren gyda phobl yr Arglwydd yn 23 oed. Bu am rai blynyddoedd yn gapten ar yacht yr Arlwydd Newborough, a gorfu i'r Arlwydd ddysgu'r wers o beidio ymyryd gormod pan fyddid mewn tywydd garw. Yn y Glyn fe ymostyngasai i air yr Arlwydd, ond nid ar fwrdd llong pan oedd bywyd mewn enbydrwydd. Nid gwr i chware âg ef oedd yr Arlwydd; ond dysgodd ef a'i deulu dalu mawr barch i'r Capten. Bu yn ymdrechgar gyda chodi'r capel yn 1861. Yr oedd iddo ryw awdurdod uwchlaw pawb yn yr eglwys a'r ardal, heb fod ffynonnell ei awdurdod yn amlwg iawn. Diniwed ydoedd ar y wyneb; ond pan ddangosai awdurdod, plygai pawb iddo. Nid oedd yn wr o ddawn gyhoeddus, ond yr oedd yn wr call a boneddigaidd ac o ysbryd crefyddol, ac yr oedd yn ymroddedig i'r achos. Nith i D. W. Pughe, y meddyg, oedd gwraig y Capten, a chyfnerthid ei ymdrechion ef gyda'r achos gan yr eiddo hithau; ac nid llai ei hawdurdod hi na'i awdurdod yntau. Dywed y Capten Hughes Gellidara, a ysgrifennodd gofiant iddo yn y Drysorfa am 1873, ei fod ef at ddiwedd ei oes fel y morwr, wedi rhedeg y distance i fyny, ac yn prysur edrych allan am y tir; ac wedi methu ganddo ei weled, yn gofyn i'w fab-ynghyfraith a oedd ef yn meddwl y byddai yn hir cyn codi y tir? Llywio'r cwrs ar y ffordd yngnghyfeiriad y Ganaan nefol y bu ef am hanner can mlynedd, ebe Capten Hughes.
Gwnawd John Griffith Ysgubor Fawr yn flaenor yr un adeg a'r Capten Owen, sef yn 1830, a bu'r ddau yn brif alluoedd yn yr eglwys am ddeugain mlynedd. Goroesodd John Griffith ei gym- rawd, a bu ef farw Mai 7, 1872. Cyferbyniadau oeddynt, ac am hynny yn cydweithredu yn fwy effeithiol. Ymddanghosai y Capten yn ddylanwad mwy ar y wyneb; John Griffith, er hynny, oedd y gwir arweinydd. Ac efe, mae'n ddiau, oedd y dylanwad mwyaf a fu ym Mrynaerau. Gwr cadarn, nerthol ydoedd o ran corff, a chyffelyb o ran meddwl. Gwelid ef unwaith mewn cae gyda'r dyniewaid yn ei bwyso i'r wal. Cydiodd yntau yn nau gorn un ohonynt, a thrwy rym braich fe'i dododd ef i lawr ar y ddaear. Un o'r Waenfawr ydoedd yn ei ddechreuad, a dywedid mai llencyn gwyllt ydoedd. Ar ol dod ohono at grefydd, ceisiodd ei hen gyfeillion ei rwystro. Yn ei gyfarfod ar ganllaw pont ar fore Sul, ac yn ceisio ei atal. Yntau yn cymeryd un gerfydd ei ddillad o'r tu ol, ac yn ei fwrw dros y bont i'r dwfr. Cafodd lonydd