ar ol hynny. Siaradwr rhwydd a chyflawnder o fater ganddo. Yr oedd y Beibl a Gurnall yn o lwyr yn ei gof. Ei ddull oedd agored, ei ymadroddion, ar brydiau, pan fyddai galw, yn gwta a brathog, a phob amser yn fachog. Gwelai trwy ddyn ar unwaith, braidd. Ar un adeg yr oedd gwr yn y gymdogaeth y deallid ei fod yn llawn awydd pregethu, ond nad oedd goreugwyr y cylch yn rhyw barod iawn i'w gefnogi. Wele ef ar un diwrnod yn galw gyda John Griffith. "Oni fu arnochi, John Griffith, erioed awydd pregethu ?" fe ofynnai. "Beth ?" gofynnai John Griffith, megys un heb glywed. "Oni fu arnochi erioed awydd pregethu, John Griffith ?" "Naddo," ebe John Griffith yn gwta, "ni chafodd y diafol erioed gymaint a hynny o gaff gwag arnaf." Daeth yr ymddiddan hwnnw i ben yn y fan honno. Dychwelodd gwraig i'r eglwys ar ol gwrthgiliad. Cymeryd ei hachos hi yn o ddidaro a ddarfu efe; a dywedai wrthi am beidio tramgwyddo os na chai hi gymaint o sylw ag a ddisgwyliai—nad oedd neb yn gwneud fawr o helynt o siopwr wedi torri. Byddai yn ddidderbyn wyneb: nid yn arw wrth y gwan, ac yn wenieithus i'r cryf. Wrth deulu uwch na chyffredin yn y lle, ag yr oedd rhywun neu gilydd ohonynt i mewn ac allan o'r eglwys yn o fynych ar un adeg, eb efe, "Cofiwch chwi mai nid cafn moch llafnau yw eglwys Brynaerau !" Ystyrrid ef ar gyfrif ei ddull didderbyn wyneb a'i allu i adnabod dynion yn un rhagorol i'w ddanfon i eglwysi ag y byddai pethau blinion ynddynt. Yr oedd gwr amlwg mewn un eglwys yn achos o flinder iddi, a deuai yn rhydd ac yn ddigerydd gydag ymwelwyr blaenorol drwy draethu profiadau uchel. Ni wnae hynny mo'r tro gyda John Griffith. Edrychodd efe y gwr ym myw ei lygaid, "Nid yw o ddim diben gweiddi, Haleliwia, ar dy hyd yn y baw!" Ac yna, gan ei ddwyn ef wyneb yn wyneb â'r achos o'r blinder, fe ofynnai, "Pa le y mae———?" Buchedd John Griffith ei hun oedd gyson a'i gydwybod yn ddirwystr. Yr oedd argyhoeddiad yn ei ddull a nerth cysondeb yn ei eiriau; ac yr oedd y geiriau eu hunain wedi eu bathu gan feddwl treiddgar, a'u cyfaddasu i'r amgylchiadau gan farn, a dirnadaeth o droadau dirgelaidd y galon, ac amcan diwyrni.
Dylanwad distawrwydd oedd eiddo William Jones Bryngwdion. Ceid ganddo gynghor da, ac ambell sylw mor amserol nes cael holl effaith sylw pert. Yr oedd yn flaenor ym Mrynengan cyn dod yma, a chyn diwedd ei oes aeth yn ol yno.