weddill iddo nag ambell i wr efo'i ddwy. Wedi ei anafu yn y dull hwnnw, fe enillai Robert Jones ei fywiolaeth drwy gludo ymenyn ac wyau, yn bennaf, mewn cawell ar ei gefn i dref Caernarvon, a chludo yn ol yn gyfnewid am danynt, gryn amrywiaeth o nwyddau gwasanaethgar i wraig y tŷ, burum Kitty Morris ymhlith pethau eraill, canys nid oedd o fath hwnnw. Cedwid y burum mewn potel alcan dan gorcyn. Ond wrth ymweithio fe chwythid y corcyn ymaith weithiau, a theflid y burum dros y nwyddau eraill yn y cawell, a mawr fyddai cŵyn y merched. Eithr yr oedd Robert Jones yn wr o adnoddau. Er mwyn gochel galanas y burum, dodai garrai y cawell am ei dalcen a chariai y botel yn ei unig law. Mawr ydoedd y llafur hwn, ond yr oedd yn wr heini, a gorchfygodd yr anhawsterau. Gallai Robert Jones balu ei ardd efo'i un fraich, a phlannu cloron a gwahanol rywogaethau o lysiau, y camomeil, y wermod, yr hen wr a'r lleill, a gwnelai hynny nes bod ei ardd. yn ddrych o ryfeddod i'r gwr diog yr aeth Solomon heibio i'w faes a'r gwr anghall yr aeth efe heibio i'w winllan. Daeth Robert Jones yn dda'r byd arno, a phrynodd drol a merlyn gwineugoch. Enw'r merlyn oedd Capten, ar ol y Capten Lewis Owen nid hwyrach. Mae'n wir fod Capten fymryn yn gloff yn un o'i goesau blaen. Eithr ni fyddai fyth anhap gyda merlyn Robert Jones, canys cyffelyb yrrwr cyffelyb ferlyn. Go hwyr y cyrhaeddai y gyriedydd adref, canys hwyr y cychwynnai, ac nid ar frys yn fuan yr ym- lwybrai Capten gloff. Dyma'r unig anffawd gyda'r gyriedydd: dameg o'i yrfa ysbrydol. Yr oedd Robert Jones yn Fethodist selog. Unwaith cododd i fyny i'w drol un o ferched C———, gryn dipyn dan ddylanwad burum cryfach nag eiddo Kitty Morris. Wedi ei chodi i'w drol, hi a ddechreuodd dywallt am ben y Methodistiaid bob sarhad. Ni fedrai'r gyriedydd ddioddef mo hynny, ac yntau ei hun yn Fethodist mor amlwg. Ac er fod y ferch yn rhywbeth o foneddiges o ran dygiad i fyny, fe droes y gyriedydd yn chwyrn arni, "Dos i lawr o fy nhrol i, ddynes, neu dyma'r chwip yma yn disgyn ar dy gwman di," ac i lawr y gorfu hi ddyfod, gan ysgafnhau llwyth Capten. Adnabyddid Robert Jones Un Fraich gan holl hogiau tref Caernarvon, ond ychydig ohonynt freuddwydiodd fod ynddo ef gyrhaeddiadau mor amrywiol, a bod iddo ddylanwad mor helaeth. Canys yr oedd Robert Jones yn flaenor ym. Mrynaerau heb erioed ei alw i'r swydd, ond llithrodd i mewn iddi megys yn ddiarwybod. Meddai ar ddawn ymadrodd, ac yr oedd yn ysgrythyrwr da. Meddyliodd unwaith am fod yn bregethwr,
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/64
Prawfddarllenwyd y dudalen hon