Yn 1883 cafwyd wythnos o bregethu gan Richard Owen. Ychwanegwyd 20 ar y pryd at yr eglwys. Bu'n ymweliad adfywiol.
Yn 1880 y dewiswyd R. Jones Hendy a William Jones Parc yn flaenoriaid. Symudodd Robert Jones i'r Capel Uchaf. Ym Mai 1885 y dewiswyd Griffith Griffiths Cim a Henry Jones Caemorfa isaf ac R. R. Williams Brynhwylfa. Henry Jones a symudodd i'r Capel Uchaf. Yn nechre 1893 dewiswyd Thomas Parry Garnfawr, John Jones Bryncroes a Samuel Williams Tynewydd. Yn niwedd yr un flwyddyn bu Thomas Parry farw. Gwr medrus a gweithgar. Yn 1897 dewiswyd R. T. Morris Llwyn impia a John Jones Lleuar fawr. Yr oedd John Jones yn y swydd yn Cwmcoryn.
Adroddiad ymwelwyr 1885 â'r ysgol: "Yr ysgol yn cael ei chario ymlaen gyda llawer iawn o fywiogrwydd ac ynni. Ychydig o'r dosbarthiadau wedi ymgymeryd â'r wers-daflen. Hanesiaeth a daearyddiaeth ysgrythyrol dipyn ar ol. Esgeulusir holwyddori'r plant yn y dosbarthiadau. Awgrymwn fod tonau plant yn cael eu canu yn achlysurol. Nid oes ymwelydd yn perthyn i'r ysgol. Llawer o ddysgu allan ar yr ysgrythyr. Oddieithr ychydig, yr athrawon a'r ysgolorion yn gryno yn eu lleoedd erbyn amser dechre."
Yn 1887 y symudodd y Parch. W. J. Davies ar ei briodas i'r gymdogaeth. Ni alwyd mono yn weinidog yr eglwys yn ffurfiol, ond efe a'i gwasanaethodd megys y cyfryw hyd ei farwolaeth, Mehefin 8, 1891. Efe, yn y flwyddyn 1888, a sefydlodd Gyfarfod Llenyddol Llun y Pasc, yr hwn bellach sydd wedi dod yn sefydliad yn y cymdogaethau cylchynnol. Bernir i'r cyfarfod feithrin ysbryd ymchwilgar. Penderfynnwyd rhoi swm bychan yn flynyddol iddo yn gydnabyddiaeth am ei lafur. Perchid ef yn fawr, er na lwyddodd yn y cynulliad eglwysig i ddifodi rhyw deimlad o bellter rhyngddo a lliaws o'r aelodau, ar gyfrif fod ei feddwl ef a'r eiddo hwythau yn gynefin â thiriogaethau gwahanol. Yng Nghaernarvon y ganwyd ef, Ionawr 25, 1848. "Hogyn bychan yn ei frat," ebe ei fam, ydoedd efe yn dod gyda'i rieni i ardal Penygroes. Er yn fachgen darllengar, bu tymor o oferedd arno. Dechreuodd bregethu yn 1877. Nodwedd arno y sylwid arni pan ydoedd yn efrydydd yn y Bala oedd y dilead llwyr o olion tymor ei oferedd. Ni feddyliasai y craffaf nad gwr tawel ei fuchedd ydoedd efe o'i