fachgendod. Yr oedd o feddylfryd iselaidd a diymhongar. Meddylgar a choeth ydoedd fel pregethwr. Cyrhaeddodd radd go uchel fel bardd. O'r beirdd Cymreig, Islwyn a hoffai efe fwyaf. Fel y dywed ef ei hun am fachlud haul, felly am dano yntau:
Mud-wenu y mae dy wyneb—hoff, fel
O ffin tragwyddoldeb:
Ni roi yn wir air i neb,—
Duw a etyl dy ateb.
Megis o ffin tragwyddoldeb, bellach, y daw'r adgof am ei wên yntau. (Gweler ysgrif y Parch. R. R. Morris arno yn y Geninen am 1892).
Yn 1891 y sefydlwyd cangen-ysgol yn y Swan mewn tŷ annedd. W. J. Davies a'i sefydlodd, a chymerai ef a'i briod ofal mawr am dani. Rhoddwyd yr ysgol i fyny yn 1899, er y credid ddarfod gwneud gwaith angenrheidiol trwyddi.
Yn 1892 y dechreuodd plant yr eglwys dalu eu casgl mis.
Yn 1896 adgyweiriwyd y capel ar draul o £160. Yng nghapel y Bedyddwyr yn Bontllyfni y buwyd yn addoli yn y cyfamser, sef am oddeutu chwe mis o amser. Yn y flwyddyn hon hefyd yr adeiladwyd yr ysgoldy, ar ochr ogleddol y capel, ar draul o £525. Yr oedd gwerth y tir,—227 llathen betryal,—yn £20.
Ionawr 16, 1898, penderfynnodd yr eglwys fod llwyr ymwrthodiad oddiwrth ddiodydd meddwol i fod yn amod aelodaeth eglwysig.
Y flwyddyn hon derbyniodd yr eglwys £120 yn rhodd oddiwrth R. Davies Borth.
Yn 1899 y rhoddwyd galwad i'r Parch. J. D. Evans, B.A. Dyma'r alwad ffurfiol gyntaf. Yr ystyriaeth a arweiniodd i hynny oedd fod y plant a'r bobl ieuainc yn cael eu hesgeuluso yn ormodol. Ni bu'r gweinidog yno yn hir cyn ei fod wedi dechre ymroi i sefydlu llyfrfa ynglyn â'r achos, a droes allan yn ddilynol yn symbyliad neilltuol i feddyliau lliaws.
Cydnabyddir mesur helaeth o rwymedigaeth i bregethwyr a gweinidogion a ddeuai yma o Glynnog i gynnal seiadau a gwneud rhyw gymaint o waith bugeiliol, ac yn arbennig Dewi Arfon, y Parch. R. Thomas (Llanerchymedd), y Parch. J. Williams (Caergybi), y Parch. W. M. Griffith, M.A. (Dyffryn); ac o blith y myfyr-