wyr, y Mri. R. Roberts (Tydweiliog), Robert Griffith (America), Joseph Roberts (D.D., America), D. O'Brien Owen.
Thomas Jones yr Aber a fu'n arweinydd canu am lawer blwyddyn. Sicr o'i nôd heb lyfr na sainfforch. Dilynnwyd ef gan Robert Griffith, tad Henry Griffith, y pregethwr. Bu ef, yn flaenorol, am flynyddau yn arweinydd y canu yn Eglwys Clynnog. Robert Jones y Ffridd a ymroes i ddysgu cyfundrefn y Sol-ffa i'r bobl ieuainc, a daeth llewyrch neilltuol ar y canu. Yn cydweithio âg ef yn yr un cyfeiriad yr oedd R. R. Williams, wedi ei benodi gydag yntau i'r gwaith yn 1875, ac efe a ddaeth yn olynydd iddo, gan i R. Jones gael ei analluogi gan ddamwain yn Awst, 1878. Yn 1888 daeth D. T. Jones i'w gynorthwyo yntau.
Bu amryw eraill heblaw a nodwyd yn bobl yn dwyn nodweddion neilltuol ynglyn â'r achos ym Mrynaerau. William Hughes y gof a'i wraig oeddynt nodedig am eu duwioldeb. Pan ar gymeryd rhan gyhoeddus mewn gweddi, lediai William Hughes y pennill ar y ffordd i'r sêt fawr yn rhyw ddull a'i gwnelai yn hawdd i rai anghynefin feddwl mai dweyd adnod y byddai. Diniwed, syml, unplyg, yn meddwl yn dda am bawb. Yr oedd newydd-deb parhaus yn ei weddi ferr a melus. Catrin William ferr, lanwaith, a fu'n cerdded i'r Bala i'r Sasiwn rai troion, a byddai yn cymeryd rhan yn y cyfarfodydd gweddi ar y daith. Am Marc Thomas y dywedir y byddai yn gweddio bob amser, yn y tŷ, yn yr ysgubor, neu lle bynnag y byddai. Gyda dosbarth o blant y ceid ef yn yr ysgol. Gwr distaw, yn gwarchod gartref, ac heb fod yn cysgu noswaith erioed oddicartref, ond yn ei gynefin ar fryniau tragwyddoldeb. William Samuel, yn wr o ddirnadaeth, a arferai weddio, "Crea galon lân ynof," nes cofid am hynny, ac am gael ei "dywallt o lestr i lestr rhag ceulo ar ei sorod." Un o'r rhai hynotaf ymhlith gwragedd Brynaerau am ei duwioldeb oedd Catrin Ellis. Dyma feddargraff Eben Fardd iddi:
Trwy y niwl Catrin Ellis—a ganfu
Y gwynfyd uchelbris:
I hon nid oedd un nôd is
Na Duw'n Dduw—dyna ddewis!
David Williams Eithinog oedd wr o ymarweddiad hardd, a fu farw yn ieuanc, y bu ganddo ran bwysig ynglyn â gwaith yr ysgol Sul yn gynnar ym Mrynaerau, ac ar ol hynny ym Mhenygroes.