Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arach na hynny Hugh Williams Terfyn, gwr a ddaeth yma o Fynydd Parys, Môn, ac ar yr un pryd Ebenezer Thomas (Eben Fardd). Dywed Robert Hughes Uwchlaw'rffynnon mai dan bregeth iddo ef, ag y dechreuodd efe ei phregethu oddeutu 1840, yr argyhoedd— wyd Eben Fardd, ac mai ar ol hynny yr ymaelododd yn Seion. Yn ol hynny, mae'n debyg na wnawd ef yn flaenor hyd oddeutu 1841 o leiaf. (Gweler Hunangofiant R. Hughes, 1893, t. 51.) Gwr tawel, tangnefeddus, ffyddlon y profodd Hugh Williams ei hun.

Dyma lyfryn bychan o'n blaen yn cynnwys cyfrifon yr eglwys o Fehefin 1839 hyd Chwefror 1841, wedi ei ysgrifennu agos oll â phlwm. Dodwyd aml gyfrif i lawr yn ofalus yn hwn. Efallai fod y ffigyrau yma, fel ffigyrau cerrig milltir, yn dangos rhyw dref neu bentref heb fod nepell, pe gwyddem pa fodd i'w dehongli. Y peth cyntaf amlwg yma yw, Elin Evan 5s. 6c. Cadw'r tŷ capel mae'n ddiau yr oedd Elin Evan, canys y tro nesaf fe ddywedir, "I Elin Evan am y mis, 5s. 4c." A gwelir mai oddeutu hynny yw'r tâl cyson. Rhaid cofio mai un oedfa a geid ar y Sul, canys yr oedd Seion yn daith gyda'r Capel Uchaf a Brynaerau, a bu felly hyd agoriad capel y pentref oddeutu 1843—4. Y mae gerbron lyfr cyfrifon arall am y blynyddoedd 1856—61, ac y mae Elin Evan, erbyn hynny Ellin Evans, yn dod o hyd yn ei mis, a 6s. yw'r symiau diweddaf a nodir gyferbyn a'i henw. Gresyn na cheid gwybod pa fath wraig tŷ capel oedd Elin Evan! Cymerer ei hir wasanaeth fel ei thocyn aelodaeth yng nghymdeithas yr etholedigion. Cymal yn y cyfrif yw Moses Jones, oedfa a chyfranu, 2s. 6c.; ac un arall, Griffith Hughes, 1s. 6c.; ac un arall, Thomas Williams Rhyd-ddu, 1s. Canys y mae aml beth i'w ystyried, pellter ffordd, dawn a safle y pregethwr, a dichon rhyw bethau cyfrin eraill. I Gyfarfod Misol Waenfawr ac i un Talysarn, 1s. bob un, ac i un Bangor, 2s. I John Owen Gwindy, 1s. Nid hwyrach mai gwell gan bobl Seion dôn soniarus na mater trwm. Daw pobl o bell heibio ar eu taith, ond nid yn aml; nid yw Seion ar y ffordd teithio fwyaf cynefin. Eithr dyma Samuel Jones Llandrillo, Robert Jones Dinbych a Lewis Morris a'i gyfaill, er fod rhai misoedd rhyngddynt, a swllt i bob un. Y mae yma er hynny rai enwau eraill nes adref ar y nosweithiau rhwng y Suliau, ac weithiau ddau efo'u gilydd. Dyma ddwsin o bregethwyr am fis Mehefin, 1840, ac y mae yma wyth am Gorffennaf, a saith yn Nhachwedd. Mae Moses Jones a Griffith Hughes, gwyr o ddoniau, yma yn aml.