Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Phillips ar eu taith o sir Aberteifi, wedi cyfranogi yn helaeth o ysbryd diwygiad y flwyddyn o'r blaen. Y manyn diweddaf yn rhestr y derbyniadau, oddigerth y casgl mis, ydyw 8s. 6½c. ddileu dyled capel yn Wolverhampton."

Tybed fod rhif yr eglwys yn nhaflen yr ystadegau am 1856, sef 70, yn gamgymeriad? Efallai fod rhyw achos lleol am y cyfrif uchel. Yn '54 y nifer oedd 57; yn '58, 52. Fe welir gan hynny fod yma gynnydd amlwg ar ol y diwygiad, sef 13 yn ystod y ddwy flynedd '59-'60. A dywedir yn adroddiad yr eglwys y teimlwyd y diwygiad yn rymus yma. Erbyn 1862 y mae'r rhif yn 52 yn ei ol.

Griffith Roberts Tanygraig, un o'r blaenoriaid cyntaf, a Thomas Roberts Bryn Eryr, oedd y ddau a adawodd eu hol yn fwyaf ar yr achos yn y lle. Gwr o gymeriad cryf ac awch ar ei ymadroddion oedd Griffith Roberts. Dyn mawr, cryf, esgyrnog, a dylanwad mawr ganddo ar blant ac eraill. Pan yn gweini, fe godai bedwar ar y gloch y bore drwy'r flwyddyn ar ddiwrnod y seiat, er gorffen ei waith yn brydlon a myned yno. Dywedodd James Williams hanesyn am dano yn adeg rhyw anghydfod yng nghapel y pentref, i'r amcan o ddangos y ffordd i ladd ysbryd gelyniaeth. Yr oedd rhywbeth wedi dod cydrhwng Griffith Roberts a Griffith Williams Ystumllech, y ddau flaenor, a dau brif gyfeillion cyn hynny. Cynhaeaf gwan ydoedd un y flwyddyn honno, a rhedodd i Wyl Grog. Yr oedd ŷd Ystumllech heb ei gynhaeafu, a'r bobl allan yn gweithio. Dyma Griffith Roberts i mewn i'w dŷ ei hun yn gynnar y bore gan ymholi ynghylch y cryman. "Pa beth a fynniti âg ef?" gofynnai'r wraig. "Y mae arna'i eisieu mynd i Ystumllech i dorri pen gwr Ystumllech," ebe yntau. "Ymgroesa wr," ebe hithau. Cafwyd y cryman, ac aeth Griffith Roberts gydag ef i gae Ystumllech, a chafodd y bobl yn troi yr ŷd. Rhoes yntau ei help i'w droi. Wrthi dan hanner dydd. Yna aethpwyd i'w gynnull, a gorffennwyd erbyn pump y prynhawn. Erbyn hynny yr oedd golwg ddrwg ar y tywydd; a chymellai Griffith Roberts gario'r ŷd. Aethpwyd i'w gario, a buwyd wrthi dan bedwar y bore, a chafwyd ef i mewn yn glyd. Ni fu Griffith Roberts a Griffith Williams erioed yn fwy o ffrindiau nag ar ol hynny. Gwr a rhywbeth yn arw ar y wyneb oedd Griffith Roberts ond gyda dyfnder o dynerwch odditanodd. Yr oedd min ar ei ddywediadau yn ei ddangos yn ddyn anghyffredin. Ni feddai ar ddawn hwylus yn gyhoeddus, tra yr oedd ei gydflaenor,