Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Thomas Roberts, yn rhwydd odiaeth a braidd yn faith. "Twm," ebe Griffith Roberts wrtho ar un tro, yngwydd y cynulliad, "dos yn fyrr i weddi: paid âg amgylchu môr a mynydd; fydd o ddim ond fel llond bŷs maneg gen' ti wedyn." Yn ei sel dros ddisgyblaeth, nid mynych y byddai Ellis William heb ryw hai am ferched wedi bod yn ffraeo neu'r cyffelyb. Ebe Griffith Roberts wrtho, "Wel, wel, Ellis William, mae dy ffroen di fel ffroen bytheiad, yn sawru pob ffos sur." Yr oedd William Griffiths Pwllheli wedi troi oddiwrth y Bedyddwyr at y Methodistiaid. Yn lled fuan yn ol hynny yr oedd yn Seion, a cheid ei fod wedi cipio'r arfer o seinio di fel du, fel y brithid y weddi a'r bregeth gan y du hwn. Ar ddiwedd yr oedfa, ebe Griffith Roberts wrtho, gan daro ei law ar ei ysgwydd, "Wel, os wyti yn mynd i duo hi efo ni, rhaid iti droi dy gôt yn dy ol !" Yn Seion y dechreuodd Evan Owen, ar ol hynny o Dalsarn, bregethu, a thrafferth fawr a gawsai i fyned drwy'r Cyfarfod Misol. Cododd Griffith Roberts o'r diwedd i fyny yn ei blaid, "Waeth i chwi un mymryn beidio, mae'r Arglwydd yn anfon Evan;" ac nid oedd dim dadl i'w chynnyg yn erbyn hynny, gan mai Griffith Roberts oedd yn dweyd. Nid oedd William Roberts Clynnog, y pregethwr, yn ddirwestwr, a rhywbryd yn ei hanes fe yfodd ormod o ddiod fain gyda chinio'r rhent yn y Glyn. Aeth William Williams yr Henbant gyda Griffith Roberts i'w amddiffyn ef yn y Cyfarfod Misol, eithaf amddiffynwyr ill dau. Dadl William Williams oedd, os oeddynt am roi codwm iddo, am roi codwm ymlaen ac nid yn ol. Dadl Griffith Roberts, nad oedd William Roberts ddim wedi torri ei fogail, dadl am dynerwch wrth drin y maban! Rhaid fod yn Griffith Roberts gyfuniad o awdurdod dull a thynerwch teimlad, o gryfder carictor ac awch meddwl. Bu ef farw Mai 15, 1851, yn 79 mlwydd oed.

Gruffydd yn ei ddydd, fu'n dda—was i Dduw
Nes ei ddod hyd yma;
Bellach o'r pwys gorffwysa,
Nef wen o hedd a fwynha.

Tad William Roberts Siop y Pentref a thaid Mr. Griffith Roberts oedd Thomas Roberts Bryn-yr-Eryr, a gwelir ei nodweddion amlycaf yn ei deulu ar ei ol. Yr oedd ef a Griffith Roberts, fel y gwelwyd eisoes mewn rhan, yn gyferbyniadau amlwg; ond yr oeddynt yn cydweithio yn effeithiol gyda'r achos. Ffyddlon, caredig a haelionus dros ben a fu Thomas Roberts a'i wraig. A naws gyffelyb oedd yn ei chwaer ef o'r Cilcoed. Byddai'n gwrando ar