Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EBENEZER, CLYNNOG.[1]

MAE pentref Clynnog yn hynod, ymhlith ystyriaethau eraill, ar gyfrif mai yma y cynhaliwyd cymdeithasfa gyntaf y sir. Tebyg mai pregethu oedd y prif amcan. Yr oedd hynny cyn 1769, gan y cynhaliwyd cyfarfod o'r un nodwedd yn Llanllyfni o fewn y flwyddyn honno. Eithr er cael y Sasiwn gyntaf yma, yn araf iawn y gwreiddiodd Methodistiaeth yn y pentref. Un rheswm am hynny ydoedd fod eglwys Clynnog Fawr yn y pentref, a bod y person, Richard Nanney, oddeutu'r amser hwn yn tynnu sylw y wlad. Hefyd yr oedd capel eisoes wedi ei godi filltir o ffordd oddiyma, ac yn peri fod ymdrechion pellach yn y cyfeiriad hwnnw yn ddialw am danynt am hir o amser; a thebyg fod adeilad cyfleus yn gryn help i'r achos wreiddio mewn ardal.

Mae gwreiddiau cyntaf yr achos eisoes wedi eu holrhain, hyd y gellid, ynglyn â hanes y Capel Uchaf. Yn ol Canmlwyddiant yr Ysgol Sabothol yng Nghlynnog, etc., yn 1808 y sefydlwyd yr ysgol yn y pentref. Yn ol Richard Jones, fe'i sefydlwyd nid yn ystabl y Tŷ Cerryg, ond yn yr Allt, tŷ Evan Jones. Symudwyd hi, yn ddilynol i hynny, i'r ystabl. Dichon, er hynny, iddi fod yn yr ystabl cyn hynny, neu yn rhywle arall. Mewn cofnodiad gan Eben Fardd yn llyfr taliadau yr aelodau, bu'r ysgol yn cael ei chynnal o dŷ i dŷ, weithiau yn un o dai yr Allt, weithiau yn y Tŷ Newydd, bryd arall yn y Tŷ Cerryg. Y rhai fu'n blaenori gyda chynnal yr ysgol oedd, William Dafydd Hafod-y-wern, Griffith Humphreys Garnedd, Owen Evans Ty'n-y-coed, Robert Roberts Niwbro' Arms, Ellis Thomas Tŷ Cerryg. Bu Griffith Humphreys ynglyn â'r ysgol yn gynnar yn ei hanes yn y Capel Uchaf a Brynaerau. Am Ellis Thomas, fe'i cyfrifid ef yn wr dysgedig, ac yr oedd ganddo ddosbarth Seisnig o dan ei ofal. Fe roddwyd James Williams Penrhiwiau, pan yn llencyn un arddeg oed, i ofalu am ddosbarth o hen bobl dros ddeg a thriugain oed. Yr oedd hynny yn y flwyddyn 1810. Cwynai yr hen bobl yn nosbarth James Williams am stŵr y plant; ac elai'r athraw ieuanc gyda hwy ar ol y gwasanaeth dechreuol i'r tŷ newydd (lle a dynnwyd i lawr ar ol hynny), a dychwelid yn ol at y gwas-

  1. Ysgrif y Parch. J. H. Lloyd Williams, B.A.; Adgofion Mr. Richard Jones, hen flaenor y lle, a anwyd ar ddydd buddugoliaeth Waterloo ; Adgofion y Parch. John Williams, Caergybi; llawysgrifau Eben Fardd; ymddiddanion âg amryw.