i weithgarwch gyda hi. Eithr symud yn ol i Môn a ddarfu ef cyn bo hir.
Ar ei ol ef y daeth Ebenezer Thomas (Eben Fardd) yn ysgolfeistr i'r lle, sef yn y flwyddyn 1827, yn wr ieuanc pump ar-hugain oed. Cafodd yr ysgol Sul noddwr ynddo yntau drachefn, a daeth yn arolygwr iddi. Llenwid y swydd honno o'i flaen ef gan Robert Roberts Niwbro Arms. Teimlid yn galonog dan arweiniad yr ysgolfeistr newydd, ac elai'r gwaith ymlaen yn siriol. Ond dyma berson newydd i'r llan a gwr mwy cyfrwys na'i ragflaenor. Gorfodai pawb hyd a allai i ddod i wasanaeth y llan. Aeth ef a'r ysgol- feistr hefyd yn gryn gyfeillion. Elai'r ysgolfeistr bellach i wasanaeth yr eglwys am ran o'r diwrnod, a chredid mai'r diwedd fyddai iddo fyned yn offeiriad ei hunan. Methu gan y person, pa ddelw bynnag, ei ennill yn eglwyswr; a pheidiodd eu cyfeillach. Arferid cynnal yr ysgol Sul, tra yn Eglwys y Bedd, am hanner awr wedi naw. Newidiodd y person amser y gwasanaeth er mwyn cyfyngu ar amser yr ysgol. Teimlid yn ddwys oherwydd hynny, yn neilltuol gan Gruffydd Wmphra a James Williams. Daethpwyd i'r penderfyniad i gael ysgoldy. Yn y cyfwng hwn danfonwyd y Parch. William Roberts a Chapten Owen Lleuar Bach i ymgynghori â'r brodyr. "Capel fydd yma cyn bo hir," ebe'r Capten, "ac ni waeth iddyn nhw gael capel ar unwaith." Ac felly fu.
Cynelid yr ysgol ddyddiol yn Eglwys y Bedd hyd 1842; ond gan na cheid ond gwg y person, fe ddechreuodd Eben Fardd a'i chynnal bellach y rhan amlaf yn ei dŷ ei hun. Yn 1845 fe agorwyd yr ysgol yn y capel.
Fel y gwelwyd yn hanes Capel Seion, rywbryd yn ystod 1840—1 y daeth Eben Fardd yn aelod eglwysig, ac yna, ar unwaith braidd, yn flaenor. Mewn llyfr a gedwid ganddo fel llyfr cyfrifon yr ysgol, a llyfr seti'r capel, y mae efe wedi cofnodi yn llawn iawn holl helynt agoriad y capel. Cyfleir y cofnodion hynny i lawr yma am eu bod, yn un peth, yn taflu rhyw oleu ar nodweddiad un o'r gwyr mwyaf ei athrylith a phuraf ei gymeriad a lanwodd swydd yng nghyfundeb y Methodistiaid; a pheth arall, mae'r cyfryw gofnodion yn y cyfnod hwn yn dra phrin, ac nid i'w cael mor llawn a hyn, mae'n debyg, ynglyn â hanes unrhyw eglwys yn Arfon yn flaenorol i hyn, nac ychwaith am hir amser ar ol hyn; a cheir hwy hefyd yn taflu goleu