Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/81

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar rai anhawsterau ynglyn âg agor capeli yn y cyfnod hwnnw. Dyma fel y rhed y cofnodion:

"Capel Newydd Pentref Clynnog.

Hydref 9, 1843. Mewn cyfeillach damweiniol a gynhaliwyd ym mhentref Clynnog, lle'r oedd y personau a ganlyn yn wyddfodol, James Williams Penrhiwiau, Robert Hughes Uwchlaw'r-ffynnon, John Jones Llanberis, Ebenezer Thomas Clynnog, penderfynnwyd fod eisieu tŷ addas a chlyd i gadw'r ysgol Sabothol yn y Pentref, oherwydd fod y lle y cedwir hi yn bresennol ynddo yn adfeilio yn fawr, ac yn beryglus, o achos ei oerni a'i damp, i ymgynnull ynddo yn ystod y rhan oer o'r flwyddyn. Penderfynnwyd hefyd fod eisieu capel yn y Pentref, yn gymaint a bod yma bregethu gan amrywiol enwau ers llawer o flynyddoedd, a chyfarfodydd crefyddol eraill yn cael eu cynnal yn wythnosol, ac er yr anfantais oddiwrth anghyfleustra y lle cyfarfod, sef tai annedd bychain, eto fod y cyfarfodydd uchod yn wastad yn dwyn ynghyd gynulleidfaoedd lliosog nodedig, ac ystyried poblogaeth y lle. Penderfynnwyd gan hynny wneud cais yn ddioed am dir i adeiladu arno Gapel, ac ar fod i ewyllys da yr ardalwyr ac eraill gael ei ofyn tuag at ddwyn y gwaith ymlaen, a thanysgrifiwyd y symiau isod at drysorfa adeiladu capel newydd y Methodistiaid Calfinaidd ym mhentref Clynnog, yr hwn a fwriedir hefyd i fod yn lle cysurus i gadw ysgol Sabothol a dyddiol. Tanysgrifiadau: Yn flaenorol i'r gyfeillach. uchod y cafwyd y rhodd hon: [Yma y dilyn llythrennau cyntaf enw neilltuol, a swm y rhodd; a llythrennau cyntaf enwau eraill a'r rhodd]. Wedi y gyfeillach uchod, cafwyd yr addewid gyferbyniol: [Enw a rhodd, yn cael ei ddilyn gan amryw o'r cyfryw]. Penderfynnwyd galw cyfarfod o athrawon ysgol Sabothol Pentref Clynnog, ynghyd ag ewyllyswyr da i'r gwaith, i ystyried y priodoldeb o barhau yn yr amcan hwn, a'r ffordd oreu i fyned ymlaen i gyrraedd y diben yn brysur, yn effeithiol, a didramgwydd. Dros y cyfeillion, James Williams [yn llawysgrifen Ebenezer Thomas].

Hydref 16, 1843. Mewn cyfarfod o athrawon ysgol Sabothol Pentref Clynnog, a gynhaliwyd yn nhŷ Griffith Owen yn y pentref dywededig, cymeradwywyd yn unllais y Penderfyniadau uchod a gytunwyd arnynt Hydref 9, ac enwyd y personau canlynol yn Gommittee i fod ganddynt allu i chwanegu at eu nifer, i'r diben o ddwyn ymlaen bob goruchwylion angenrheidiol mewn cysylltiad