avail themselves of both. And your Lordship's Petitioners as in duty bound shall ever pray. Seiniwyd gan ———— [Yn dilyn enwau 35 o wyr yr ardal].
Hyrdef 30. Mewn Committee a gyfarfu yn nhŷ Ebenezer Thomas ym mhentref Clynnog, hysbyswyd gan Mr. John Jones Ty'nycoed fod Lord Newborough wedi addaw tir i adeiladu capel fel y deisyfid yn yr erfyniad blaenorol. Mewn canlyniad i hyn, Penderfynnwyd ar i Messrs. John Jones a James Williams fod yn oruchwylwyr y Committee, a gadawyd at eu deall a'u synwyr hwy i farnu pa faint o dir a fyddai angenrheidiol, a bod iddynt alw cyfarfod o'r Committee bob tro y gwelant angen am eu cynorthwy. Penderfynnwyd am faint y capel, iddo fod yn 12 llath o hyd wrth 9 llath o led oddifewn. Apwyntiwyd Ebenezer Thomas yn ysgrifennydd. Apwyntiwyd Mr. Robert Griffith Draper yn drysorydd. Enwyd amryw o'r Committee ac eraill i fyned o amgylch y Gymdogaeth i ofyn cydroddion at y draul adeiladu. Chwanegwyd William Jones Tŷ Coch at y Committee. Humphrey Roberts Cadeirydd.
Tachwedd 27. Amryw o aelodau y Committee wedi bod gyda Mr. R. Roberts, Goruchwyliwr Lord Newborough, yn cael dangos iddynt y darn o dir y caniatae ei Arglwyddiaeth i ni godi capel arno,—a gyfarfuant yn nhŷ Ebenezer Thomas, lle y penderfynnwyd gwneud ymchwiliad am gerryg at adeiladu yn ddioed, ac ymrwymodd William Jones Cefn-y-gwreichion, James Williams, Humphrey Roberts a Richard Jones fyned o amgylch bore yfory, sef 28ain, i'r diben hwnnw. Rhoddwyd ar John Thomas Camfa'r buarth wneud ymofyniad gyda Mr. Davies Plas ynghylch car i gario cerryg, a gadawyd at ei synwyr ef i'w brynu neu ei gael ar lôg. Dymunwyd hefyd ar John Thomas fyned gyda Mr. Davies ac eraill i nodi allan yr hyn fyddo angenrheidiol o gongl y cae at ben yr hen ffordd. Penderfynnwyd fod yn angenrheidiol gofyn ewyllys da y cymdogion i weithio heb oedi, ac i drefnu amser a gwaith pawb yn y fath fodd ag y byddai i'r gwaith fyned ymlaen yn fwyaf hwylus ac effeithiol. Ymrwymodd James Williams ofyn i bawb o'r Pentref i afon y Terfyn, ac i bawb a welai o gwrr arall y gymdogaeth. Evan Thomas Cadeirydd.
Rhagfyr 5, 1843. Rhoddwyd plan o'r capel gerbron y Committee, o ddyfais James Williams, a chymeradwywyd ef yn un fryd,