Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn unig fod hyd y capel i fod yn 11 llath yn lle 12 a'i led yn 10 llath yn lle 9, ac i'r plan gael ei ail dynnu a'i gymhwyso at y maintioli hwn. Cyflwynwyd ac ymddiriedwyd i James Williams holl ofal y plan i'w ffurfio ym mhob rhan fel y gwelai efe yn oreu. Pen- derfynnwyd gwneud ymdrech yn ddioed i godi cerryg. E. Thomas Sec.

Rhagfyr 18. Mewn cyfarfod o'r Committee rhoddwyd Humphrey Roberts a'i fab ar waith i osod polion o amgylch lle y capel, a bod i Evan Jones y Court a John Roberts Garnedd, neu ryw ddau eraill lenwi pridd yr hen glawdd pan fyddai Mr. Davies yn barod i'w gario ymaith. Penderfynnwyd prynu coed gan Mr. William Jones Pwllheli, yr hwn a addawai wrth Thomas Roberts Bryneryr eu cario i Glynnog, os rhoddid y pris o 14c. y droedfedd am danynt. Penderfynnwyd cymeryd rhyw gymaint o galch gan Mr. Thomas Edwards, yr hwn a addawai gario amryw droleidiau i Glynnog yn ddidraul. Ymrwymai Richard Jones Clynnog fyned o amgylch i gymeryd i lawr enwau rhydd-ewyllyswyr yn y gymdogaeth i weithio a'u trefnu i ddyfod i'r gwaith ar gylch. Gorchmynnwyd derbyn ugain punt o gynygiad Mr. Robert Hughes Uwchlaw'r- ffynnon ar y capel dros glwb y Rechabiaid, a rhoddi note of hand am danynt o dan ddwylo Thomas Roberts Bryneryr, John Jones Ty'nycoed ac Ebenezer Thomas Clynnog, y rhai a ymrwyment i fod yn atebol dros y capel. A chyfarwyddwyd rhoddi yn ol £4 y cant o log, ond iddynt hwy, sef Robert Hughes a'r Clwb ymfoddloni i gymeryd £3 10s., os byddid yn cael rhyw arian felly. Ymddiriedwyd i John Jones Ty'nycoed osod y gwaith cerryg ar y muriau i Robert Williams yr Allt am 9c. y llath, a bod iddo gymeryd dau ddyn medrus gydag ef i weithio. Os na chymerai y gwaith am hynny, iddo gael ei osod i rywun arall. Soniwyd am i Richard Jones Bodgefail gael y gwaith toi a phlastro os byddai yn dewis, ac yn cytuno âg amodau y gosodwr a'r Committee. Ymddiriedwyd hefyd i John Jones Ty'nycoed osod y gwaith o dyllu a saethu cerryg i John Williams Mur Sant. Gorchmynnwyd prynu hoelion i osod y polion yn y siop newydd,—tair modfedd o hyd. Penderfynnwyd gofyn i Capten Owen Lleuar bach ddyfod i gyfarfod nesaf y Committee. E. Thomas Ysgrifennydd.

Mewn Committee a gynhaliwyd nos Wener y 5ed o Ionawr, 1844, enwyd y personau canlynol i fod yn trustees y capel newydd: Parchn. W. Roberts Hendre bach, John Jones Talsarn, Capten