Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lewis Owen Lleuar bach, Mri. James Williams Penrhiwiau, Thomas Roberts Bryneryr, Richard Jones Pentref, Ebenezer Thomas eto. Cymeradwywyd y plan gwreiddiol o eiddo James Williams, yn unig na byddai i'r stabl fod yn ffrynt y capel fel y bwriedid unwaith.

Yn y Capel Uchaf ychydig ddyddiau ar ol y cyfarfod uchod, Parch, John Phillips a ddadleuai dros sefydlu ysgolion Brytanaidd yn y plwyf hwn fel yn holl Ogledd Cymru; ac mewn cyfrinach gyda rhai o'r ymddiriedolwyr uchod, darluniai ddull yr ysgoldai priodol ac mewn ateb i gais y trustees oedd yn bresennol dywedai y gwnae y capel newydd y tro i gadw yr ysgol hon ond i'w blan gael ei gyfnewid. Cydsyniwyd er mwyn yr ysgol i ganiatau y cyfnewidiad. Ac yn ol y cynllun cyfnewidiol hwn, er i raddau yn wahanol i'r hyn a ofynnai Mr. Phillips, penderfynnwyd adeiladu y capel. E. Thomas.

Mesur gwaith y saer maen ar y capel newydd: Corff yr adeilad, 136 troed. 7 mod. x 18 troed. 8 mod. = 2549 troed. 6 mod.; dau dal maen, 31 troed. 9 mod. x 10 troed. 6 mod. = 333 troed. 4 mod. ; 2 adenydd, 18 troed. 6 mod. x 4 troed. = 74 troed. Cyfanswm, 328 llath 4 troed. 10 mod. Talcen y ffrynt yn mesur ar ei ben ei hun, 759 troedfedd, 4 modfedd. E. Thomas. J. Williams.

Awst 29, 1844. Cyfarfu y Parch. William Roberts Hendre bach, James Williams Penrhiwiau, John Jones Ty'nycoed, Thomas Roberts Bryn-yr-eryr, Evan Thomas, Benjamin Hughes, Ebenezer Thomas yn y capel newydd am 6 o'r gloch, pryd y gwelwyd fod y setiau wedi eu gorffen yn bur agos, a'r capel mewn cyflwr o orffeniad hwylus a boddhaol iawn. Ymddiddannwyd am ardreth y setiau. amser y pregethau a chyfarfodydd eraill, ynghylch amryw swyddau o wasanaeth i'r eglwys a'r gynulleidfa, a phwy a'u gweinyddai, ynghylch ceffyl y pregethwr, a darpariaeth ar ei gyfer, etc., etc.

Medi 18ed, nos Fercher, cynhaliwyd y Gymdeithas Eglwysig gyntaf yn y capel newydd, pryd yr oedd lliaws o frodyr a chwiorydd y Pentref a'r gymdogaeth yn bresennol, a theimlwyd yn y cyfarfod hwn rywbeth nodedig fel arwydd a thystiolaeth o foddlonrwydd yr Arglwydd."

Fe ganfyddir, yn ol y cofnodion hyn, fod Eben Fardd ynghydag aelodau Methodistaidd eraill yn parhau i ryw fesur i fyned i was- anaeth yr eglwys yn y bore, wedi gorffen gwasanaeth yr ysgol.